Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diogelu Safle Ysbyty鈥檙 Fflint ar gyfer y Dyfodol
Published: 26/01/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint yn camu i mewn i sicrhau dyfodol safle Ysbyty Cymuned y Fflint.
Mae鈥檙 hen ysbyty cymuned wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y dref. Mae llawer iawn o ddiddordeb cyhoeddus wedi bod yn safle鈥檙 hen ysbyty cymuned a鈥檌 ddyfodol ers iddo gau.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac aelod lleol, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淢ae hwn yn safle sensitif iawn yn nhref y Fflint.听 Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 Bwrdd Iechyd wedi bod yn bryderus am y safle ers yr ymosodiad t芒n bwriadol ac maent yn awyddus i鈥檞 wneud yn ddiogel.听听
鈥淲rth edrych i鈥檙 dyfodol, mae鈥檙 Cyngor yn ystyried ymestyn ei amrediad o ddarpariaeth cartrefi gofal.听 Mae cartref presennol Croes Atti yn darparu gofal i 30 o breswylwyr ac rydym, fel Cyngor, yn gobeithio ehangu ar hynny.听 Byddai modd gwneud hyn ar y safle hwn ond byddai'n rhaid cau鈥檙 cartref er mwyn caniat谩u i鈥檙 gwaith gael ei wneud.听 Yr opsiwn lleiaf aflonyddgar fyddai adeiladu cartref gofal newydd ar safle'r hen ysbyty.听听
鈥淩ydym yn bwriadu gweithio gyda鈥檙 Bwrdd Iechyd i ddarparu cartref newydd gyda 60 o welyau ar safle鈥檙 hen ysbyty yn y Fflint.听 Gobeithiwn, trwy weithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 Bwrdd Iechyd, y gallwn ddarparu cyfleuster gofal 鈥渃amu i fyny camu i lawr鈥 ar y safle wedi鈥檌 ailddatblygu.听 Cam cyntaf y broses yw hwn ac mae angen i ni gydweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 gymuned yn ardal y Fflint a gyda鈥檙 Bwrdd Iechyd i gyflawni cyfleuster newydd sbon sy鈥檔 parhau i ddarparu鈥檙 gofal gorau, mewn lleoliad modern i drigolion Sir y Fflint.鈥澨
Dywedodd Mark Wilkinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:听
鈥淵n dilyn yr ymosodiad t芒n bwriadol ar hen safle Ysbyty Cymuned y Fflint yn ddiweddar, mae peirianwyr strwythurol wedi cynnal archwiliad ac wedi cadarnhau bod yr adeilad mewn cyflwr peryglus. Gan hynny mae鈥檙 Bwrdd Iechyd yn teimlo mai鈥檙 dewis gorau er mwyn cefnogi鈥檙 gymuned leol yw dymchwel yr adeilad a throsglwyddo鈥檙 tir i Gyngor Sir y Fflint er mwyn buddsoddi mewn cyfleusterau gofal preswyl newydd ar y safle.
鈥淣id yw鈥檙 adeilad wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd ers peth amser ac yn 2018 agorwyd Canolfan Iechyd a Lles newydd gwerth 拢5m yn y Fflint i ddarparu amryw o wasanaethau i鈥檙 dref mewn adeilad modern ac addas i鈥檙 diben.
鈥淩oedd hyn yn cynnwys gwasanaethau newydd Awdioleg, Methiant y Galon a Ffisiotherapi ac mae hyn wedi caniat谩u i bobl gael amrywiaeth o driniaethau yn y gymuned 鈥 rhywbeth nad oedd yn bosibl cyn hynny."
Fel rhan o鈥檙 cysyniad cyffrous hwn, mae鈥檙 Bwrdd Iechyd yn bwriadu darparu gwelyau gofal 鈥渃amu i fyny camu i lawr鈥 a chymorth nyrsio i gleifion ysbyty.听
听