每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Cofio'r Holocost 2021

Published: 25/01/2021

HMD.jpg

Cynhelir dau funud o dawelwch gan Gyngor Sir y Fflint am 11.00am ar ddydd Mercher, 27 Ionawr i oedi a myfyrio ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost.听

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost (27 Ionawr ) yn ddiwrnod cofio cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig er mwyn cofio am y rhai a ddioddefodd yn yr Holocost, dan Erledigaeth y Nats茂aid, ac mewn achosion o hil-laddiad dilynol yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Cafodd ei gynnal am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2001, ac mae wedi bod ar yr un dyddiad bob blwyddyn ers hynny. Mae鈥檙 dyddiad yn dynodi pen-blwydd rhyddhau gwersyll crynhoi Auschwitz gan yr Undeb Sofietaidd ym 1945.听

Am y tro cyntaf, bydd seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 y DU yn cael ei ffrydio ar-lein am 7pm. Heddiw, mae rhaniad cynyddol mewn cymunedau ar draws y DU a鈥檙 byd. Nawr, fwy nac erioed, rhaid i ni sefyll ynghyd gydag eraill yn ein cymunedau er mwyn atal rhaniad ac atal lledaeniad o elyniaeth yn seiliedig ar hunaniaeth, yn ein cymdeithas.

Trwy gynnal dau funud o dawelwch, byddwn yn ymuno 芒 miloedd o bobl eraill sy鈥檔 dod ynghyd ar draws y DU i gofio鈥檙 gorffennol ac ystyried y rhan all bawb ei chwarae i herio casineb a chreu dyfodol mwy diogel a gwell.

I ddarganfod mwy am Ddiwrnod Cofio鈥檙 Holocost ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein, ewch i wefan y sefydliad:听

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

鈥淢ae Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost yn ddiwrnod arwyddocaol 鈥 mae鈥檔 gyfle i ni ddod ynghyd i adlewyrchu a chofio鈥檙 rhai a brofodd erchyllterau dychrynllyd. Mae hefyd yn bwysig i ni sefyll ynghyd a sicrhau bod y byd yr ydym yn byw ynddo yn ddiogel ac yn rhydd o elyniaeth sy鈥檔 seiliedig ar ragfarn鈥.