Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor i rieni ar ddysgu wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod clo
Published: 19/01/2021

Atgoffir rhieni yn Sir y Fflint am ganllawiau argaeledd addysg.
Mae dysgu wyneb yn wyneb wedi鈥檌 ohirio gan Lywodraeth Cymru, ar wah芒n i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed, tan o leiaf 29 Ionawr, ond oni bai y bydd cyfraddau heintio yn gostwng yn sylweddol, gallai hyn barhau tan hanner tymor Chwefror.
Gyda chyfraddau trosglwyddiadau cynyddol o ganlyniad i鈥檙 amrywiolyn newydd o鈥檙 coronafeirws, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn datgan y dylai plant gweithwyr allweddol fynychu ysgol dim ond pan nad oes unrhyw ddewis diogel arall o gwbl a dim ond ar ddiwrnodau pan mae eu rhiant neu rieni yn gweithio.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, 鈥淩ydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i ddisgyblion a rhieni gyda dysgu wyneb yn wyneb wedi鈥檌 ohirio i鈥檙 rhan fwyaf o ddisgyblion. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn pan mae ysgolion yn agored i blant gweithwyr allweddol, mae鈥檔 hanfodol ein bod yn sicrhau bod canllawiau Llywodraeth Cymru o ran pwy sy鈥檔 cael mynychu yn cael eu dilyn, er mwyn cadw pawb yn ddiogel.鈥
鈥淒ylai pob plentyn sy鈥檔 gallu cael gofal diogel gartref gael hynny, ond os yw gwaith rhieni/gofalwyr yn hanfodol i ymateb COVID-19, ac nad oes modd cadw鈥檙 plentyn/plant yn ddiogel gartref, yna rhoddir blaenoriaeth i ddarpariaeth addysg wyneb yn wyneb.
鈥淚 sicrhau bod ein cymunedau yn aros yn ddiogel a bod trosglwyddiadau鈥檔 cael eu lleihau, dim ond y disgyblion hynny sydd angen bod yn ysgol a ddylai fod yn bresennol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan ysgolion ddigon o gapasiti i鈥檙 rhai hynny sydd wir angen y llefydd.鈥
Cyfeiriodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, at ganllawiau Llywodraeth Cymru sy鈥檔 datgan:
Nid yw un gweithiwr allweddol yn golygu o reidrwydd bod plant 芒鈥檙 hawl i le yn yr ysgol, ac os yw鈥檔 bosibl i blant gael gofal gartref, yna dylent gael hynny.
Nid yw anawsterau cydbwyso dysgu yn y cartref a gweithio gartref yn rheswm i gael y ddarpariaeth, oni bai bod yr unigolyn sy鈥檔 gweithio gartref yn weithiwr allweddol sydd ddim yn gallu gofalu am y plentyn yn ddiogel.
Os bydd y capasiti鈥檔 llawn, yn seiliedig ar asesiad risg yr ysgol, bydd y Cyngor yn cymryd y penderfyniad y gall rhai plant gael blaenoriaeth ar gyfer darpariaeth yn seiliedig ar alwedigaeth y rhieni.
听