Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu cymhorthdal i wasanaethu bws
Published: 14/01/2016
Yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn trafod y
cymhorthdal i wasanaethau bws a gymeradwywyd gan y Cabinet fis Mai 2015.
Ar hyn o bryd, mae鈥檙 Cyngor yn gwario 拢1,046,180 ar gymhorthdal i redeg oddeutu
30 o wasanaethau bws, naill drwy ddarparu cytundebau penodol neu drwy roi
cymhorthdal i weithredwyr masnachol redeg gwasanaethau na fyddent, fel arall,
yn ymarferol o safbwynt ariannol. Fel arfer, gwasanaethau gwledig yw鈥檙 rhain,
neu wasanaethau sy鈥檔 rhedeg ben bore, gyda鈥檙 nos, ar ddydd Sul neu wyliau banc,
ynghyd 芒 rhai gwasanaethau cludiant ysgolion a gwasanaethau i bentrefi, ystadau
tai neu safleoedd gwaith arbennig, na ellid eu darparu fel arall.
Yn dilyn adolygiad o鈥檙 gwasanaethau sy鈥檔 derbyn cymhorthdal, gwelwyd mai prin
iawn yw鈥檙 teithwyr ar rai siwrneiau ac nid ydynt, felly, yn gynaliadwy.
Yn unol 芒鈥檙 adolygiad hwn, cynigir rhoi鈥檙 gorau i鈥檙 cymhorthdal ar gyfer y
gwasanaethau bws nad ydynt yn cael eu defnyddio鈥檔 aml a chreu rhwydwaith o
wasanaethau bws effeithiol ac effeithlon sy鈥檔 cynnwys nifer o 鈥榞anolfannau鈥
trafnidiaeth.
Drwy weithio gyda鈥檙 cynghorau tref a chymuned, cymunedau a busnesau lleol a
chyrff gwirfoddol, bydd y Cyngor yn helpu i wella a datblygu cynlluniau
trafnidiaeth gymunedol i greu cysylltiadau rhwng cymunedau lleol a鈥檙 rhydwaith
craidd drwy gyfrwng y 鈥榗anolfannau trafnidiaeth鈥.
Bydd y Cabinet yn ystyried ac yn trafod rhydwaith craidd y gwasanaethau bws,
dileu鈥檙 gwasanaethau sy鈥檔 dibynnu ar gymhorthdal a chynigion y Cyngor i weithio
gyda chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol, ynghyd 芒鈥檙
sylwadau a gafwyd gan Bwyllgor Arolygu a Chraffu鈥檙 Amgylchedd yn ei gyfarfod ar
13 Ionawr.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd:
鈥淢ae sefydlu rhwydwaith craidd o wasanaethau bws yn ffactor bwysig yn y broses
o hybu twf economaidd a hybu iechyd a lles cymdeithasol.
鈥淥 gofio鈥檙 problemau ariannol parhaus sy鈥檔 wynebu鈥檙 Sir, mae鈥檔 bwysig bod
unrhyw gymhorthdal y mae鈥檙 Cyngor yn ei roi鈥檔 fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn
sicrhau gwerth am arian.
鈥淵n ystod y sesiynau cyhoeddus 鈥楧yma鈥檔 Cyfle Ni鈥, a gynhaliwyd ddiwedd y
flwyddyn, roedd yn galonogol clywed bod pobl leol a grwpiau cymunedol yn
awyddus i helpu i achub gwasanaethau sy鈥檔 bwysig iddynt a hefyd yn lleisio
pryderon am gost y gwasanaethau bws sy鈥檔 derbyn cymhorthdal er mai prin iawn
yw鈥檙 rhai sy鈥檔 eu defnyddio. Rydym yn awr yn awyddus i adeiladu ar y
brwdfrydedd hwnnw ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol i
ddatblygu cynlluniau.鈥