Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Disgleiriwch yn y Nos; Byddwch yn Weladwy; Byddwch yn Ddiogel
Published: 05/01/2016
Fe atgoffir cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ei bod yn bwysig bod modd i yrwyr eu
gweld, yn enwedig yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn.
Er bod rhai o ffyrdd mwyaf diogel y byd yn y DU,* yn anffodus, cafodd 249 o
gerddwyr a 138 o feicwyr eu lladd neu eu hanafu鈥檔 ddifrifol ar ffyrdd Cymru yn
2014**. Y cyngor gan Ddiogelwch Ffyrdd Cymru yw bod angen i bawb chwarae eu
rhan i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel.
Gydar ffasiwn ar gyfer dillad tywyll a du, gallai pethau syml fel cario bag
plastig gwyn wneud byd o wahaniaeth i welededd pobl. Mae hefyd modd prynu
bandiau braich, ategolion bag ac esgidiau plant sydd 芒 goleuadau syn
fflachio.
Gall ffonau symudol a dyfeisiau electronig eraill dynnu sylw pawb sy鈥檔
defnyddio鈥檙 ffordd, serch hynny mae gan ff么n symudol ei ddyfais diogelwch ei
hun ynddo. Mae cario ff么n fel y gall gyrwyr weld y sgrin oleuedig yn ffordd
hawdd o helpu modurwyr i weld defnyddwyr eraill y ffordd yn y tywyllwch, yn
enwedig mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd sydd wedi鈥檜 goleuon wael.
Mae gwisgo neu gario deunyddiau fflwroleuol yn ystod y dydd a deunyddiau
adlewyrchol yn y nos yn ddewis hefyd, ac mae llawer o fanwerthwyr bellach yn
gwerthu eitemau fel hyn yn eithaf rhad.
Mae goleuadau beic yn rhad iw prynu, ac maent yn fwy disglair nag erioed, ac
mae llawer o ategolion beicio bellach yn cynnwys stribedi adlewyrchol sy鈥檔
ymateb i oleuadau car. Mae Rheolaur Ffordd Fawr yn glir, os ydych chi鈥檔 beicio
fin nos, maen rhaid i chi osod golau gwyn ar y blaen a golau coch ar y cefn.
Mae鈥檔 rhaid i chi gael adlewyrchydd coch ar y cefn ac adlewyrchyddion oren ar y
pedalau. Bydd adlewyrchyddion blaen gwyn ac adlewyrchyddion ar y sb么cs yn eich
helpu i gael eich gweld hefyd.
Mae hefyd angen i yrwyr chwarae eu rhan drwy gadw golwg ar y ffordd a rhagweld
peryglon posibl. Gyrrwch ar gyflymder syn eich galluogi i stopio o fewn y
pellter y gallwch ei weld sy鈥檔 glir, a dylech roi digon o le i feicwyr a
cherddwyr wrth basio os nad oes llwybr troed.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd: 鈥淢ae gan bawb sy鈥檔 defnyddio鈥檙 ffordd yr hawl i wneud hynny, ond
mae ganddynt gyfrifoldeb dros rannu鈥檙 lle ar y ffordd yn ddiogel. Sicrhewch fod
modd i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd eich gweld, ac mae hyn yn hanfodol yn
ystod adeg yma鈥檙 flwyddyn pan mae鈥檙 golau鈥檔 wael a gall gwelededd newid mewn
eiliadau oherwydd y tywydd.鈥
* Llywodraeth y DU https://www.gov.uk/government/policies/road-safety
** Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru Diogelwch ar y Ffyrdd 2014 a
gyhoeddwyd 9 Medi, 2015.
https://www.gov.uk/government/policies/road-safety
Nodiadau i Olygyddion:
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.diogelwchffyrddcymru.org.uk