Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Golwg tua鈥檙 Dyfodol
Published: 06/10/2015
Mae pobl yn cael eu gwahodd i deithio ymlaen mewn amser ac edrych ar sut olwg
allai fod ar y ganolfan llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Cyhoeddodd y Cyngor Sir gynigion i foderneiddio ac ail-lunio gwasanaethau
llyfrgell yn Sir y Fflint ym mis Mawrth ac roeddent yn cynnwys cynnig am
ganolfan llyfrgell newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i
wasanaethu cymunedau Penarl芒g, Mancot a Queensferry, lle mae鈥檙 cyfleusterau
sydd yno ar hyn o bryd yn rhai rhan-amser, mewn adeiladau hen ffasiwn nad ydynt
yn cael llawer o ddefnydd.
Cynhaliwyd ymgynghoriadau ynglyn 芒鈥檙 cynigion yn y cymunedau yr effeithir
arnynt. Er bod pobl yn cydnabod y bydd er budd cyffredinol y ddarpariaeth
llyfrgelloedd i鈥檙 dyfodol i fwrw ymlaen 芒 datblygu canolfan newydd, roedd
llawer o ddefnyddwyr y llyfrgelloedd hefyd yn pwysleisio bod rhaid cynllunio鈥檙
gwasanaeth i adlewyrchur tair cymuned leol, a gofyn hefyd i鈥檙 gwasanaeth gael
ei ategu gan wasanaethau ychwanegol sy鈥檔 seiliedig yn y gymuned ynghyd ag
ystyried Trosglwyddo Ased Cymunedol.
Disgwylir ir ganolfan newydd gostio oddeutu 拢130,000, gydar rhan fwyaf or
cyllid - dros 拢90,000 - yn dod o grant CyMAL. Bydd hefyd yn arbed oddeutu
拢50,000 y flwyddyn i鈥檙 gwasanaeth llyfrgell.
Mae cynlluniau ar gyfer y llyfrgell newydd yn dod at ei gilydd nawr ac mae
defnyddwyr y llyfrgell ac aelodau or cyhoedd yn cael eu gwahodd i alw i mewn i
Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy unrhyw adeg rhwng 5pm a 7pm ddydd Iau 15
Hydref i weld lle y bydd y llyfrgell a dweud eu dweud ar y weledigaeth ar gyfer
y dyfodol, cynllun modern / traddodiadol y llyfrgell, dewisiadau llyfrau yn y
dyfodol, catalog ar-lein a chyfleusterau hunanwasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg
鈥淓r ein bod wedi cynnal ein rhwydwaith llyfrgelloedd yn Sir y Fflint, maen
rhaid i ni nawr edrych ar ffyrdd gwahanol o ddarparur gwasanaeth, cadw ei
ansawdd a gwellar cyfleusterau sydd ar gael.
鈥淢ae hwn yn gyfnod cyffrous yn nyluniad y ganolfan llyfrgell newydd yng
Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ac rwyn gobeithio y bydd pobl yn manteisio
ar y cyfle i alw heibio a gweld drostynt eu hunain sut y gallai鈥檙 cyfleuster
newydd hwn agor y drysau i ddefnyddwyr y llyfrgell i brofir ystod ardderchog o
gyfleusterau hamdden a sba sydd gan y ganolfan iw cynnig a darparu mynediad
hawdd i ddefnyddwyr hamdden i lyfrau, cyfrifiaduron a chyfleoedd astudio.鈥