Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ailddarganfod Merched: Hanesion o Archif Gogledd Ddwyrain Cymru
Published: 11/01/2021
Mae hanesion benywaidd ysbrydoledig o鈥檔 harchif wedi cael eu trosglwyddo o鈥檙 papur i鈥檙 sgrin fel rhan o brosiect a ariannwyd gyda Theatr Clwyd.
Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, sy鈥檔 cynnwys archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, wedi ennill dyfarniad grant gan Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd gyda Theatr Clwyd i greu ffilmiau ar yr arddull monolog, sy鈥檔 ailadrodd hanesion cyffrous merched cryf ac ysbrydoledig yn ystod ddeunawfed, y bedwaredd ar bymtheg, a鈥檙 ugeinfed ganrif.
Mae鈥檙 hanesion yn seiliedig ar ferched go iawn a ganfuwyd yng nghasgliadau'r archif yn Rhuthun a Phenarl芒g. Byddant yn canolbwyntio ar bedwar bywyd, gan gynnwys:
- Prifathrawes a oedd wedi ymroi ei hun i addysg;
- Gweddw gl枚wr a laddwyd yn nhrychineb pwll glo Gresffordd;
- Mam yn myfyrio ar iselder 么l-enedigol;
- Yr enwog Marged ferch Evan, 鈥渄ynes anhygoel sef heliwr, saethwr, a physgotwr gorau ei chyfnod鈥 fel yr ysgrifennodd Thomas Pennant.
Cynhaliwyd y ffilmio yn ystod Wythnos Archwilio eich Archif, ymgyrch a drefnwyd gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y DU, a gefnogwyd yng Nghymru gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru.聽 Mae鈥檙 ymgyrch flynyddol hon sy鈥檔 para wythnos, yn annog pobl ar draws Cymru i ganfod rhywbeth newydd a chyffrous o fewn yr archifau cenedlaethol, boed hynny鈥檔 ymchwilio i hanes eich teulu neu ddarganfod straeon am y bobl a鈥檙 lleoedd sydd wrth galon cymunedau Cymru.聽
Dywedodd Sarah Roberts, archifydd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru:
鈥淔el arfer, byddwn yn cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd yn ystod yr adeg hon, ond rydym wedi gorfod meddwl yn fwy creadigol oherwydd cyfyngiadau presennol COVID, ynghylch sut y gallwn ddefnyddio a hyrwyddo ein casgliadau arbennig.
鈥淢ae wedi bod yn gyffrous i weithio gyda Theatr Clwyd ar rywbeth mor wahanol. Rydym yn edrych ymlaen at lansio'r straeon ar-lein dros yr wythnosau nesaf a diddanu pobl dros y cyfnod cloi. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli stor茂wyr a gwneuthurwyr ffilm eraill i seilio eu gwaith ar gasgliadau archif lle bynnag y maent wedi'u lleoli.鈥
Dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol yn y Theatr:
"Mae wedi bod yn hynod ddiddorol gweithio gyda鈥檙 archif ar y prosiect hwn. Mae wedi ein galluogi i ddod o hyd i straeon cudd o Ogledd Cymru. Rydyn ni'n gobeithio gweithio mwy mewn partneriaeth 芒'r archif i ddod 芒 straeon yn fyw ac i rannu ein hanes unigryw gyda鈥檙 byd mewn ffordd greadigol."
Mae Eleri B. Jones, Cyfarwyddwr Merched a Ailddarganfuwyd a Chyfarwyddwr dan Hyfforddiant yn Theatr Clwyd hefyd wedi gwneud sylwadau:
鈥淢ae ailddarganfod straeon y menywod hyn mewn partneriaeth ag Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru wedi bod yn agoriad llygad a phrofiad difyr dros ben. Yn rhy aml, mae straeon hanesyddol o'n hardaloedd gwledig, yn cael eu hanghofio neu eu gorchuddio, yn enwedig o ran menywod blaengar, bob dydd fel y rhai yn ein ffilmiau. Mae wedi bod yn fraint i ddychmygu bywyd o鈥檜 persbectif a rhoi llais i鈥檙 doethineb sy鈥檔 dal yn berthnasol heddiw.鈥
Cadwch lygad am #MonologDyddLlun dros yr wythnosau nesaf ar sianel YouTube Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ac ar ein blog yn ystod yr wythnosau nesaf i weld y straeon hyn yn dod yn fyw!