每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau Ysgolion ar gyfer mis Ionawr 2021

Published: 18/12/2020

Yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gyfyngiadau newydd i Gymru ar 么l y Nadolig, mae penderfyniadau cenedlaethol wedi鈥檜 gwneud hefyd am ddarparu addysg pan fydd ysgolion yn ailagor ym mis Ionawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i awdurdodau lleol y bydd angen dull mwy hyblyg er mwyn darparu ar gyfer cynnydd posibl o ran cyfraddau trosglwyddo鈥檙 feirws, yn enwedig ar 么l gwyliau鈥檙 Nadolig lle bydd mwy o deuluoedd wedi cymysgu 芒鈥檌 gilydd. Maen nhw wedi cynghori ysgolion i wneud fwy o ddefnydd o ddulliau dysgu o bell yn ystod wythnosau cyntaf y flwyddyn newydd, gyda鈥檙 disgwyliad y bydd ysgolion yn dychwelyd i ddarparu dysgu wyneb i wyneb erbyn 18 Ionawr, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu, trwy ymgynghori 芒鈥檌 Benaethiaid ac yn unol 芒 chyngor Llywodraeth Cymru, na fydd ysgolion Sir y Fflint yn ailagor ar gyfer dysgu wyneb i wyneb ar gyfer yr wythnos sy鈥檔 dechrau 4 Ionawr 2021 a bydd yn darparu dysgu ar-lein i鈥檙 disgyblion i gyd.听

Bydd pob ysgol yn cysylltu 芒 rhieni i nodi pa blant allai fod angen parhau i fynychu鈥檙 ysgol yn ystod y cyfnod hwn, er enghraifft plant gweithwyr allweddol.

Ni chaiff penderfyniad ei wneud am pa bryd i symud ysgolion yn 么l i ddarparu dysgu wyneb i wyneb tan 6 Ionawr. Nod y Cyngor yw dychwelyd i ddysgu wyneb i wyneb cyn gynted ag sy鈥檔 bosibl, ond dim ond pan fydd hi鈥檔 ddiogel i wneud hynny.

Bydd plant sydd 芒 hawl i Brydau Ysgol am Ddim yn parhau i gael taliadau uniongyrchol ar gyfer y cyfnod dysgu o bell. Caiff rhagor o fanylion eu rhannu cyn gynted ag sy鈥檔 bosibl am drefniadau arlwyo ar gyfer plant sydd angen mynd i鈥檙 ysgol naill ai fel dysgwr diamddiffyn neu ar gyfer trefniadau gofal plant.听

Disgwylir i bob dysgwr gael yr un ddarpariaeth ddysgu gan eu hysgol, p鈥檜n a fyddant adref ac yn dysgu o bell, neu os oes angen iddynt fod yn yr adeilad.

Byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr trwy lythyrau gan ysgolion ac ar ein gwefan .