Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Daliwch ati gyda鈥檙 ymdrech ailgylchu GWYCH dros y Nadolig i helpu Cymru i gyrraedd y brig
Published: 14/12/2020
Wrth i gyfradd ailgylchu Cymru gyrraedd lefel uwch nag erioed, rydyn ni鈥檔 galw ar ein preswylwyr yn Sir y Fflint i ddal ati gyda鈥檜 hymdrechion 鈥榞wych鈥 i ailgylchu dros y Nadolig eleni.听听
Mae 92% ohonon ni鈥檔 ailgylchu鈥檔 rheolaidd*, sy鈥檔 gwneud Cymru yn genedl o Ailgylchwyr Gwych. Ni yw鈥檙 drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn ni鈥檔 cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gael Cymru i fod y genedl ailgylchu orau un.
Datgelodd y data ailgylchu diweddaraf ein bod un cam yn nes at gyrraedd y brig. Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil COVID-19, cafwyd cynnydd mawr yng nghyfradd ailgylchu gyffredinol Cymru eleni, fe gododd o 63% i 65%**. Mae hyn yn golygu ein bod nawr yn ailgylchu 65% o鈥檔 gwastraff, sy鈥檔 rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o 64% ar gyfer eleni.听
Dangosodd arolwg diweddar hefyd bod 55% ohonom yn ailgylchu mwy nag yr oeddem ni鈥檙 adeg hon y llynedd*, a phryderon amgylcheddol yw un o鈥檙 prif resymau dros wneud. Mae hynny鈥檔 wych, ond gan fod bron i鈥檔 hanner ni yn dal i beidio ag ailgylchu popeth posibl, mae mwy y gallwn ni ei wneud o hyd. Os rydyn ni am helpu Cymru i fynd o鈥檙 drydedd genedl orau yn y byd i鈥檙 gorau un, a dal ati i warchod ein hadnoddau gwerthfawr, mae angen inni oll ymdrechu dros y Nadolig eleni.听
Gan amlaf, dros y Nadolig rydyn ni鈥檔 creu mwy o wastraff gartref nag unrhyw adeg arall o鈥檙 flwyddyn. O鈥檙 holl fwyd ychwanegol rydyn ni鈥檔 ei fwyta i鈥檙 mynyddoedd o ddeunyddiau pacio o鈥檙 anrhegion Nadolig, dyma gyfle delfrydol i wneud yn siwr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.
Dyna pam rydyn ni鈥檔 cefnogi鈥檙 ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, wedi鈥檌 ariannu gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych dros y Nadolig eleni.
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淢ae dinasyddion Cymru鈥檔 dangos eu bod yn WYCH gyda鈥檜 hailgylchu, ac mae eisiau inni oll fod yn falch o鈥檔 hymdrechion, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rydyn ni鈥檔 galw ar ein preswylwyr yn Sir y Fflint i ddal ati gyda鈥檙 gwaith da dros y Nadolig i鈥檔 helpu i gyrraedd y brig!鈥
鈥淔e wyddom fod pobl Cymru鈥檔 malio am warchod ein gwlad hardd ac mae ailgylchu鈥檔 chwarae rhan hanfodol wrth daclo newid hinsawdd. Dyma beth syml y gall pawb ei wneud i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn鈥.
Dyma syniadau ar gyfer bod yn Ailgylchwr Gwych dros y Nadolig eleni:听
- Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymru鈥檔 darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwyd dros ben o鈥檙 cinio Nadolig (y pethau na ellir eu bwyta鈥檔 ddiogel yn nes ymlaen)!. A daliwch ati i ailgylchu gwastraff arall dros yr Wyl hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau, a hen fara.
- 颁辞苍肠谤辞鈥檙 cardbord dros y Dolig. Gellir ailgylchu鈥檙 holl gardbord a ddaw gyda鈥檙 danfoniadau nwyddau ar-lein. Cofiwch dynnu鈥檙 holl d芒p gludiog yn gyntaf, a fflatio unrhyw focsys. Ac ar 么l i鈥檙 Nadolig ddod i ben, cofiwch ailgylchu鈥檙 cardiau i gyd, ond ichi dynnu unrhyw rubanau鈥檔 gyntaf, ac unrhyw ddarnau sy鈥檔 cynnwys llwch llachar.听
- Gellir ailgylchu鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 plastig sydd i鈥檞 gael o gwmpas y cartref; poteli diodydd, nwyddau glanhau a photeli nwyddau ymolchi, fel poteli siampw a gel cawod. Cofiwch wagio, gwasgu a rhoi鈥檙 caead yn 么l arnynt cyn eu hailgylchu. Gallwch hefyd ailgylchu鈥檙 tybiau plastig mawr o siocled a losin sy鈥檔 llenwi鈥檙 ty dros y Dolig!听
- Peidiwch ag anghofio ffoil y Nadolig hwn. Dylech ailgylchu casys ffoil sy鈥檔 dal mins peis ac unrhyw ffoil glan neu di-staen fyddwch chi鈥檔 ei ddefnyddio wrth goginio dros y Nadolig. Dylech wagio, golchi听 rholio cynwysyddion ffoil yn beli, cyn eu rhoi i鈥檞 hailgylchu.听
- Gellir ailgylchu caniau diodydd a thuniau bwydydd metel, yn ogystal ag erosolau gwag fel diaroglydd, gel eillio a chwistrell gwallt.听
- Os byddwch chi鈥檔 ansicr beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu, gallwch edrych ar y .
- I gael gwybodaeth leol yn Sir y Fflint, ewch i:
Gallwch ddysgu mwy am yr Ymgyrch Gwych a ffeithiau ac awgrymiadau ailgylchu 鈥12 dydd Nadolig' gan Cymru yn Ailgylchu ar y wefan , cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, gwrandewch ar yr hysbyseb ar y radio, ac ymunwch 芒鈥檙 sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio鈥檙 hashnod #ByddWychAilgylcha听
* Arolwg Tracio Ailgylchu Cenedlaethol WRAP (Cymru), Hydref 2020
** StatsCymru听
听
听