Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2021/22
Published: 10/12/2020
Ddydd Mawrth 15 Rhagfyr bydd Aelodau Cabinet Sir y Fflint yn derbyn adroddiad ar ragolwg cyllidebol 2021/22.
Mae鈥檙 adroddiad yn cyflwyno鈥檙 rhagolwg cyllidebol diweddaraf ac yn cynghori ynghylch y datrysiadau cyllideb cyfyngedig sydd ar gael, sy鈥檔 golygu y bydd cyflawni sefyllfa gytbwys ar gyfer 2021/22 yn dibynnu鈥檔 fawr ar dderbyn cyllid digonol gan Lywodraeth Cymru.听
Cyn Adolygiad Gwariant diweddar Canghellor y DU, roedd y rhagolwg cyllidebol isaf ar gyfer 2021/22 yn 拢16.750 miliwn听
Mae鈥檔 bosibl y bydd y rhagolwg yn newid yn dibynnu ar a yw Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un patrwm o ran cyhoeddiadau cyflog y sector cyhoeddus - nid oedd yr Adolygiad Gwariant yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd cyffredinol.听
Fodd bynnag, hyd yn oed ar 么l caniat谩u ar gyfer cynnydd blynyddol rhesymol yn Nhreth y Cyngor ac amcangyfrif o 拢1.750 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd corfforaethol, mae ein gofynion cyllid gan y setliad yn dal yn oddeutu 拢11.3 miliwn, sy鈥檔 cynrychioli cynnydd o oddeutu 5.7% yn y Grant Cymorth Refeniw.
Felly, mae鈥檔 rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cynnydd o 6% (o leiaf) i roi rhywfaint o hyblygrwydd i fodloni鈥檙 gofynion gwario hanfodol presennol.
Rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi鈥檙 setliad dros dro ar 22 Rhagfyr.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae cynnydd o lai na 5.7% yn golygu na fyddwn ni鈥檔 gallu bodloni ein gofynion gwario lleiaf na mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 diffyg cynyddol yng nghyllidebau ein hysgolion uwchradd. Dim ond drwy gynyddu cyllid sylfaenol y Cyngor y byddwn ni鈥檔 gallu cynyddu鈥檙 swm rydym ni鈥檔 ei fuddsoddi yn ein fformiwla cyllido ysgolion lleol.鈥
Yn anochel, dan yr amgylchiadau presennol bydd yn rhaid i鈥檙 Cyngor gario nifer o risgiau ariannol i 2021/22 felly mae鈥檔 bwysig ein bod ni鈥檔 ceisio adfer y cronfeydd wrth gefn, sy鈥檔 crebachu yn sgil y pandemig, er mwyn lleddfu鈥檙 risgiau yma.
Y gobaith ydi y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu parhau 芒鈥檙 gefnogaeth dda a chalonogol sydd wedi鈥檌 darparu yn ystod y pandemig a rhoi cyllid digonol i'r Cyngor allu diwallu鈥檙 anghenion presennol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Banks:
鈥淵n y sefyllfa sydd ohoni, a ninnau鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd cyrraedd ein targedau casglu Treth y Cyngor a llawer o aelwydydd yn bryderus ynghylch swyddi ac incwm, fedrwn ni ddim gofyn i drethdalwyr lleol ysgwyddo鈥檙 baich o ran ariannu gwasanaethau lleol yn briodol.鈥
听