每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais economi gylchol ar gyfer Bwcle

Published: 09/12/2020

Circular economy.jpgYm mis Tachwedd, rhoddodd Llywodraeth Cymru wahoddiad i Awdurdodau Lleol wneud cais i鈥檙 'Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21鈥 i ariannu prosiect fyddai鈥檔 hyrwyddo cydlynu cymunedol drwy fentrau atgyweirio ac ailddefnyddio a rhoi cyfle i gefnogi adfywio canol ein trefi.听

Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth 芒 Groundwork Gogledd Cymru a Refurbs Flinstshire, wedi cyflwyno cais i ddod 芒 Chanolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio, ynghyd 芒 chaffi, i ganol tref Bwcle.听

Nod hirdymor y prosiect yw hyrwyddo addysg a newid ymddygiad ynglyn 芒 mentrau gwastraff ac ailgylchu, gan gynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i bobl leol, wrth gefnogi cynllun adfywio strategol y dref, ac yn bwysicaf oll, creu lle i'r gymuned ddod at ei gilydd.听

Mae hen adeilad banc yr HSBC ar y stryd fawr wedi ei nodi fel y dewis gorau ar gyfer y lleoliad hwn. Byddai鈥檙 cynnig hwn yn golygu y byddai鈥檙 eiddo yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ar gyfer y gymuned leol ac ehangach, gan annog mwy o ymwelwyr 芒 chanol y dref.

Gydag amgylchedd caffi a lletygarwch yn ganolbwynt iddo, mae鈥檙 gwasanaethau cyntaf i gael eu darparu o dan y cynnig yn cynnwys:

  • Atgyweirio eitemau bach o鈥檙 cartref;
  • Arddangosiadau sut i wneud gwaith atgyweirio/technegau uwchgylchu y gellir eu defnyddio yn y cartref;
  • Gwybodaeth ynglyn 芒 sut i gyfrannu eitemau diangen o鈥檙 cartref fel y gellir eu trwsio ar gyfer eu gwerthu neu eu hailgylchu;听
  • Gweithdai a gweithgareddau gwirfoddoli er mwyn creu darnau y gellir eu gwerthu i鈥檙 caffi o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu neu eitemau diangen;
  • Arddangos eitemau y gellir eu prynu, sydd wedi eu gwneud o ddeunyddiau ailgylchu.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淩wy鈥檔 croesawu鈥檙 newyddion fod cais wedi ei gyflwyno i ddod 芒 menter gyffrous a diddorol i ganol tref Bwcle. Mae cyfleuster fel hwn yn cefnogi nifer o flaenoriaethau鈥檙 Cyngor, megis hyrwyddo cydlyniant cymunedol, cefnogi adfywio canol y dref a chynorthwyo i hyrwyddo menter gwastraff ac ailgylchu er mwyn sicrhau fod Cymru yn symud tuag at Economi Gylchol. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at dderbyn canlyniad cadarnhaol i鈥檙 cais hwn.鈥澨

Dywedodd Groundworks/Refurbs:

鈥淩ydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint ar y fenter newydd gyffrous hon fydd yn creu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl leol, a chynorthwyo gydag adfywio canol tref Bwcle drwy fenter atgyweirio ac ailddefnyddio.鈥

Caiff Cyngor Sir y Fflint wybod canlyniad y cais hwn ddechrau Ionawr 2021.