每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg i glywed safbwyntiau tenantiaid preifat yn ystod y Coronafeirws

Published: 30/11/2020

Housing consultation.jpgMae cynghorau yng Ngogledd Cymru eisiau canfod sut y gallai pandemig y Coronafeirws fod yn effeithio ar bobl sy鈥檔 rhentu eu tai gan landlordiaid preifat drwy ofyn i denantiaid gwblhau holiadur.

Mae bron i 1 o bob 5 aelwyd yn byw mewn cartref a gaiff ei rentu鈥檔 breifat 鈥 mae鈥檙 rhain yn dai nad ydynt yn cael eu rhentu gan gymdeithas dai (neu dy cyngor).听

Yn yr arolwg cyntaf o鈥檌 fath sy鈥檔 benodol ar gyfer Gogledd Cymru, mae Cynghorau yn ymgynghori 芒鈥檜 tenantiaid preifat i weld sut maent yn ymdopi yn ystod y pandemig.听

Mae Cynghorau a鈥檜 partneriaid yn cynnig ystod eang o wasanaethau i denantiaid preifat fel:

  • cyngor a chymorth i denantiaid preifat i atal colli tenantiaeth;
  • cymorth gyda chyllidebu a sicrhau鈥檙 incwm mwyaf posibl;
  • cyfeirio ar gyfer cefnogaeth yn ymwneud 芒 cham-drin domestig;
  • hawliau tenantiaeth ac, os nad yw鈥檔 bosibl i arbed tenantiaeth, cymorth i ganfod llety arall.听

I helpu cynghorau lleol i gynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau ar gyfer 2021 caiff tenantiaid preifat eu gwahodd i gwblhau holiadur byr a rhannu eu profiadau.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

鈥淏ydd yr ymgynghoriad hwn gyda thrigolion Sir y Fflint sy鈥檔 rhentu鈥檔 breifat, yn rhoi tystiolaeth uniongyrchol i ni o鈥檙 heriau maent wedi eu hwynebu yn ystod y pandemig ac yn ein galluogi ni i lunio ein gwasanaethau yn well i ddiwallu eu hanghenion.鈥

Mae鈥檙 holiadur ar gael ar wefan TPAS Cymru (Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid). Mae TPAS yn gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru i helpu i lunio gwasanaethau tai. Bydd yr holl ymatebion yn anhysbys.

I ateb yr holiadur ewch i听 .

Mae TPAS hefyd yn trefnu鈥檙 鈥楶wls Tenantiaid鈥 sy鈥檔 cynnal arolygon drwy gydol y flwyddyn i gael safbwyntiau pobl mewn ystod eang o lety a gaiff ei rentu. Bydd pawb sy鈥檔 ateb yr holiadur hwn yn cael gwahoddiad i ymuno 芒鈥檙 Pwls Tenantiaid gyda鈥檙 cyfle i ennill talebau siopa gwerth 拢150. Byddant yn cael y cyfle i roi adborth a rhannu eu profiadau drwy arolygon rheolaidd. Bydd Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a Sefydliadau Landlordiaid yn clywed eu safbwyntiau. I gael rhagor o wybodaeth ynglyn 芒 TPAS Cymru neu i ymuno 芒鈥檙 Pwls Tenantiaid ewch i听.