每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Sir y Fflint yn cael ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol

Published: 13/11/2020

Accolades.JPGCafodd Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint gymeradwyaeth uchel yn Acol芒dau Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar.听

Cawsant eu cydnabod am y prosiect sy鈥檔 darparu gweithgareddau dydd defnyddiol i dros 250 o bobl ag anableddau dysgu. Mae鈥檙 prosiect yn helpu unigolion i ddysgu sgiliau newydd, datblygu annibyniaeth ac i wneud cysylltiadau cymdeithasol a ffrindiau. Mae hefyd yn gweithio gyda鈥檙 rhaglen byw 芒 chymorth i helpu鈥檙 bobl sy鈥檔 derbyn cefnogaeth a鈥檜 rhieni a gofalwyr i allu defnyddio gwasanaethau seibiant llwyddiannus, diogel a di-dor. Gwella gofal a chefnogaeth adref gyda鈥檔 gilydd.听

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

"Mae yna reswm arall i ddathlu, gan fod Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru wedi ennill acol芒d am eu gwaith yn darparu gwasanaethau seibiant i ofalwyr.

"Mae鈥檔 gyflawniad aruthrol i gyrraedd rowndiau terfynol Acol芒dau Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hi bob amser yn braf pan mae gwaith caled ac ymroddiad ein swyddogion a phartneriaid yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Da iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o鈥檙 prosiect yma sydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bobl. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyfrannu."

Mae Acol芒dau Gofal Cymdeithasol Cymru yn cydnabod rhagoriaeth ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eu dewis gan banel o feirniaid sydd yn cynnwys Aelodau鈥檙 Bwrdd, cynrychiolwyr o鈥檔 sefydliadau partner, cyn enillwyr a phobl sydd 芒 phrofiad o ddefnyddio gofal a chefnogaeth.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

"Rydym wrth ein bodd bod y nifer mwyaf erioed wedi cystadlu gan arwain at grwp cryf yn y rownd derfynol sy鈥檔 dangos y gwaith anhygoel sy鈥檔 cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol a鈥檙 blynyddoedd cynnar yng Nghymru."听

Gallwch wylio seremoni wobrwyo Acol芒dau yma, ac mae prosiectau Sir y Fflint i鈥檞 gweld am 34:09: