Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Asesiadau Gyrru Am Ddim i Rai dros 65 oed
Published: 02/09/2015
Mae gyrwyr hyn yn Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i dderbyn cynnig o asesiad
gyrru am ddim.
Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnig sesiwn yrru am
ddim i drigolion dros 65 oed, i鈥檞 helpu i addasu eu harddull gyrru i aros yn
ddiogel ac yn hyderus ar y ffordd wrth iddynt fynd yn hyn.
Mae hyfforddwyr gyrru o Wasanaeth Asesu Gyrru a Symudedd Cymru sydd wedi cael
hyfforddiant arbennig yn cynnal asesiadau ac yn darparu cyngor a gwybodaeth i
helpu pobl hyn i aros y tu 么l i鈥檙 llyw yn hirach.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o鈥檙 Cabinet
dros yr Amgylchedd:
鈥淏yddwn yn annog ein preswylwyr dros 65 oed i dderbyn y cynnig hwn am sesiwn
yrru am ddim. Wrth i ni heneiddio, gall newidiadau ddigwydd sy鈥檔 effeithio ar
y ffordd yr ydym yn gyrru, gan gynnwys ymateb yn arafach a chymryd mwy o amser
i wneud penderfyniadau. Gall gyrru hefyd achosi mwy o flinder a straen. Mae
rhai gyrwyr yn sylwi ar newidiadau tebyg mor gynnar a chanol eu pumdegau. Wrth
iddynt heneiddio, gall y rhan fwyaf o bobl barhau i yrru鈥檔 ddiogel ac heb
unrhyw broblemau, ond gall hyn fod yn haws gydag ychydig o help gan weithwyr
proffesiynol.鈥
Mae鈥檙 asesiadau gyrru鈥檔 cynnwys gwasanaeth o ddrws i ddrws.
I archebu neu ganfod mwy, cysylltwch 芒鈥檙 Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01352
704498.