每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwyd Theatr Cymru yn penodi Tamara Harvey fel Cyfarwyddwr Artistig

Published: 12/06/2015

Heddiw (2 Mehefin 2015) bydd Clwyd Theatr Cymru yn cyhoeddi penodiad Tamara Harvey fel Cyfarwyddwr Artistig newydd. Bydd yn ymuno 芒 Chlwyd Theatr Cymru ym mis Awst eleni. Ar 么l cael ei phenodi, meddai Tamara Harvey: 鈥淩wyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy ngwahodd i fod yn gyfarwyddwr artistig i Glwyd Theatr Cymru ar adeg mor gyffrous yn ei hanes. Mae Terry Hands wedi gwneud gwaith rhagorol yn datblygu teulu o artistiaid a chynhyrchu gwaith ardderchog ar gyfer cynulleidfa deyrngar sy鈥檔 tyfu. Nawr wrth i鈥檙 cwmni symud i鈥檞 deugeinfed flwyddyn, edrychaf ymlaen at ehangu鈥檙 cylch hwnnw: meithrin talent o Gymru a thu hwnt, a chydweithio 芒 chwmn茂au ac artistiaid o bell ac agos i sicrhau fod y begwn hwn o arloesedd ar ben bryn yn yr Wyddgrug yn ysbrydoliaeth i Gymru, y DU a gweddill y byd. Meddai Ron Davies, Cadeirydd: 鈥淢ae Bwrdd Clwyd Theatr Cymru yn arbennig o falch o gael cyhoeddi penodiad Tamara Harvey fel ein Cyfarwyddwr Artistig. Tamara yw鈥檙 ymgeisydd delfrydol ar gyfer cyfnod nesaf ein datblygiad fel cwmni cynhyrchu a theatr blaenllaw yn y DU. Mae ganddi enw da ymhlith ei chyfoedion a llwyth o egni, gweledigaeth a chreadigrwydd. Mae Tamara yn rhannu ein gweledigaeth i ddatblygu ein safle o gryfder fel cydgomisiynydd a chwmni teithiol yn y DU ac yn rhyngwladol, ac arallgyfeirio ein arlwy celfyddydol i wneud ein sylfaen yng Nghlwyd Theatr Cymru yn ganolbwynt bywiog a phrif gyrchfan diwylliannol.鈥 Mae Tamara Harvey wedi cyfarwyddo yn y West End, ledled y DU a thramor, gan weithio ar ddram芒u clasurol, ysgrifennu newydd, theatr cerdd a ffilm. Yn fwy diweddar, cyfarwyddodd Pride and Prejudice i Theatr Crucible Sheffield ac, yn Theatr Hampstead, dramau blaenllaw Elephants gan Rose Heiney, Hello/ Goodbye gan Peter Souter ac In the Vale of Health, cylched o bedair drama gan Simon Gray. Mae perfformiadau blaenllaw byd-eang eraill wedi cynnwys From Here to Eternity, y sioe gerdd newydd gan Tim Rice, Stuart Brayson a Bill Oakes yn Theatr Shaftesbury, Breeders yn Theatr St James aThe Contingency Plan a tHe dYsFUnCKshOnalZ!, ar gyfer Theatr Bush). Gwahoddwyd Harvey gan Josie Rourke i fod yn Gyfarwyddwr Cysylltiol ar gyfer ei blwyddyn olaf yn Theatr Bush yn 2010 -11, lle cyfarwyddodd Tamara Where鈥檚 My Seat?, pump o鈥檙 Sixty-Six Books a drama arobryn The Kitchen Sink, y tri chynhyrchiad cyntaf yng nghartref newydd Theatr Bush. Mae wedi bod yn gyfarwyddwr dair gwaith ar 24 Hour Plays at the Old Vic ac mae wedi bod aelod o banel Gwobrau George Devine ddwywaith ar gyfer y Dramodydd Mwyaf Addawol. Mae鈥檔 aelod o fwrdd Gwyl Ddrama Genedlaethol y Myfyrwyr, bu鈥檔 un o鈥檙 beirniaid yn yr Wyl eleni, mae鈥檔 ymddiriedolwraig i Sefydliad Peggy Ramsay ac mae ar banel theatr cerdd ar gyfer gwobrau Artistiaid o Ddewis Sefydliad Kevin Spacey. Adeiladwyd Clwyd Theatr Cymru yn wreiddiol fel Canolfan Gelfyddydau Ranbarthol. Cafodd ei chreu drwy weledigaeth Cyngor Sir y Fflint gynt ac fe鈥檌 hagorwyd yn 1976. Mae鈥檙 theatr tua milltir o ganol tref yr Wyddgrug yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae鈥檔 agos at ddinas Caer. Mae鈥檙 ganolfan yn cynnwys pump o leoliadau perfformio 鈥 Theatr Anthony Hopkins, Theatr Emlyn Williams, Stiwdio 2, Ystafell Clwyd (aml-ddefnydd) a Sinema 鈥 yn ogystal 芒 siop lyfrau, bwyty a thair oriel gelf. Mae pump o Gyfarwyddwyr Artistig wedi bod yn y theatr dros y 39 mlynedd diwethaf: George Roman (1976-1985), Toby Robertson (1985-1992), Helena Kaut-Howson (1992-1995) a Terry Hands (1997-2015). Mae Tim Baker wedi bod yn Gyfarwyddwr Cysylltiol ers 1997 ac mae鈥檔 rheoli rhaglen y Theatr Bobl Ifanc hynod lwyddiannus. Ariennir y theatr ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru. Clwyd Theatr Cymru yw鈥檙 prif gwmni cynhyrchu drama yng Nghymru ac mae鈥檔 denu bron i draean o gyfanswm cynulleidfaoedd theatr Cymru yn flynyddol. Yn 1998 enillodd Clwyd Theatr Cymru wobr Theatr y Flwyddyn Barclays/TMA ac yn 1999 fe鈥檌 dynodwyd yn Gwmni Celfyddydau Perfformio Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Nodyn i Olygyddion Gwybodaeth fywgraffiadol bellach Ganwyd Tamara Harvey yn Botswana, dysgodd gerdded yn yr Unol Daleithiau ac fe鈥檌 magwyd yn Brighton. Sylweddolodd ei bod am fod yn gyfarwyddwr pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed pan gafodd ei derbyn ar raglen addysgol fel rhan o Wyl Gelfyddydol Ryngwladol Brighton, gan gysgodi cydgyfarwyddwyr Noye鈥檚 Fludde. Treuliodd flwyddyn dramor ym Motswana ac Efrog Newydd, lle bu鈥檔 gwneud swyddi amrywiol fel cynhyrchydd, cyfarwyddwr, gweithredwr bwrdd goleuo, intern, swyddog gweinyddol cysylltiol a chynorthwy-ydd castio. Ei chynhyrchiad cyntaf fel cyfarwyddwr oedd ym Motswana, lle cynhyrchodd ei haddasiad ei hun o ddrama The Lion, the Witch and the Wardrobe ar gyfer Gwyl Gelfyddydol Ryngwladol Maitisong. Dychwelodd Harvey i鈥檙 DU i astudio ym Mhrifysgl Bryste, lle ffurfiodd ei chwmni theatr ei hun, Bright Angel, gan gynhyrchu a chyfarwyddo Romeo and Juliet, Henry V a Sixteen Winters gan Laura Wade yn yr Old Vic ym Mryste. Yn Llundain, cynhyrchodd Bright Angel Something Cloudy, Something Clear gan Tennessee Williams鈥 ac Young Emma gan Wade, yn y Finborough. Am bum mlynedd ar 么l graddio, bu Tamara yn cyfuno鈥檙 gwaith o fod yn gyfarwyddwr cynorthwyol mewn opera a theatr 芒鈥檌 chynhyrchiadau ei hun, gan weithio i Opera Deithiol Lloegr, Opera Garsington, Opera New Kent, RADA, Shakespeare鈥檚 Globe, ac ar gynhyrchiadau theatr yn y West End ac ar daith. Cynorthwyodd y cyfarwyddwr a enwebwyd ar gyfer Gwobr Tony, Tim Carroll, ar y cynhyrchiad gwreiddiol o鈥檙 ddrama Twelfth Night a adfywiwyd yn ddiweddar a oedd yn serenu Mark Rylance, a bu hefyd yn cynorthwyo Stephen Poliakoff ar Sweet Panic, a oedd yn serenu Victoria Hamilton a Jane Horrocks. Ei chynhyrchiadau cyntaf mawreddog fel cyfarwyddwr oedd Much Ado About Nothing gyda chast benywaidd i gyd yn Theatr Globe, taith gyntaf The Graduate yn y DU fel cydgyfarwyddwr 芒 Terry Johnson ar One Flew Over the Cuckoo鈥檚 Nest yn serenu Christian Slater, Frances Barber a Mackenzie Crook. Mae ei gwaith theatr pellach yn cynnwys Plague Over England (Finborough & Duchess); Bash (Stiwdios Trafalgar); Whipping it Up (New Ambassadors); Educating Rita a Smash (yn Menier Chocolate Factory/Theatr Brenhinol Bath ac ar daith); Romeo and Juliet (Theatre of Memory yn Middle Temple Hall); Dancing at Lughnasa (Theatr Rep Birmingham); Where the Mangrove Grows (Theatre 503); Who鈥檚 the Daddy? (King鈥檚 Head); Bedroom Farce (West Yorkshire Playhouse); The Importance of Being Earnest (Theatr Shakespeare New Jersey); Touch Wood (Theatr Stephen Joseph); Closer (Theatr Frenhinol Northampton) a Tell Me On a Sunday (taith y DU). Mae Tamara hefyd yn aelod sylfaenol o鈥檙 Lamb Players ac mae wedi cyfarwyddo eu drama Much Ado About Nothing; The Merchant of Venice; Love鈥檚 Labour鈥檚 Lost ac As You Like It. Yn 2010, bu Tamara yn castio a chyfarwyddo dram芒u theatr sy鈥檔 ffurfio rhan annatod o ffilm nodwedd Anonymous, gan Roland Emmerich (cyfarwyddwr Independence Day). Roedd ei 鈥榗hriw o chwaraewyr鈥 ar gyfer y ffilm yn cynnwys Mark Rylance, Jasper Britton ac Alex Hassell. Am wybodaeth bellach: Barbara Milne, Rheolwr Cyfathrebiadau Corfforaethol, Cyngor Sir y Fflint. barbara .milne@flintshire.gov.uk, 01352 702111