Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn 2019/20
Published: 14/10/2020
Bydd perfformiad y Cyngor mewn perthynas 芒 chwynion yn erbyn gwasanaethau a dderbyniwyd ac yr ymchwiliwyd iddynt gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019/20 yn cael ei rannu yn y Cabinet ddydd Mawrth 20 Hydref.听
Gwnaed cyfanswm o 61 o gwynion yn erbyn y Cyngor yn 2019-20. Er bod hyn yn gynnydd o 11 ar y flwyddyn flaenorol, roedd canran uchel o gwynion (80%) naill ai'n gynamserol, allan o awdurdodaeth neu wedi cau ar 么l i'r Ombwdsmon ddechrau eu hystyried.听 听Gostyngodd nifer y cwynion a oedd angen ymyrraeth gan yr Ombwdsmon o 50% yn 2019-20, o 16 i 8.
Enillodd Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2019. Mae hyn yn golygu mai Cymru yw swyddfa'r Ombwdsmon cyntaf yn y DU i gael pwerau llawn a gweithredol i sbarduno gwelliant systematig i wasanaethau cyhoeddus drwy ymchwiliadau ar ein 'menter ein hun' yn ogystal 芒'r r么l Safonau Cwynion.
Yn ystod 2019-20, ymgysylltodd y Cyngor yn gadarnhaol 芒'r pwerau Safonau Cwynion newydd drwy gyflwyno data i'r Awdurdod Safonau Cwynion am y cwynion yr aethpwyd i鈥檙 afael 芒 hwy gan y Cyngor. Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu mwy am y dirwedd gwynion yng Nghymru a sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion yng Nghymru.听
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:
鈥淢ae鈥檙 adroddiad yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda chydweithwyr yn swyddfa鈥檙 Ombwdsmon i ddatrys cwynion cwsmeriaid yn gynnar lle bynnag y bo modd.听 Cyflwynwyd polisi鈥檙 Cyngor ar gyfer delio 芒 chwynion yn 2012. Byddwn yn adolygu鈥檙 polisi hwn ac yn rhoi polisi newydd ar waith erbyn diwedd 2020-21. Bydd hyn yn cynnwys adolygu arferion a gweithdrefnau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio 芒'r model ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; sicrhau bod y system a ddefnyddir i gofnodi cwynion yn briodol a hyrwyddo'r polisi newydd i leihau nifer y cwynion cynamserol i'r Ombwdsmon."
听