每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau canol tref Bwcle

Published: 16/09/2020

Mewn partneriaeth, mae cynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Bwcle ynghyd 芒 masnachwyr lleol wedi ffurfio gweithgor i archwilio gwelliannau priffordd a theithio llesol yng nghanol ac o amgylch tref Bwcle, tra hefyd yn gwella bywiogrwydd ac amgylchedd Bwcle.听听

Cafodd y grwp ei sefydlu i ystyried dewisiadau ar gyfer dad-greu parth cerddwyr posibl ar y Stryd Fawr a datblygu strategaeth trafnidiaeth integredig tymor hir i鈥檙 dref.听听

Mae ymgynghoriad ar gyfer agor y Stryd Fawr i draffig wedi鈥檌 ohirio oherwydd COVID-19, fodd bynnag, fel rhan o鈥檙 prosiect hwn, mae cais am arian grant wedi鈥檌 gyflwyno i Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau yn yr ardal gyfagos.听听

Mae cam cyntaf y strategaeth hon yn cynnwys cysylltu Ysgol Gynradd Mountain Lane, Ysgol Uwchradd Elfed, Ysgol Gynradd Southdown ac Ysgol Gynradd Westwood 芒 chanol y dref drwy isadeiledd teithio llesol. Mae hyn yn cynnwys arwyddion traffig ar gyffordd Mill Lane/Ffordd Hawkesbury a lledu Mill Lane i hwyluso llwybr a rennir a chaniat谩u i draffig lifo鈥檔 rhwydd.听听

Mae鈥檙 grwp yn gobeithio y bydd y cais hwn yn llwyddiannus a byddant yn parhau 芒鈥檙 gwaith i ddatblygu strategaethau er budd y dref.听听