Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Uwchraddio camerâu cyflymder sefydlog
Published: 28/08/2020
Yn dilyn gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno ceisiadau trwy'r Gronfa Grant Diogelwch Ffyrdd, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer uwchraddio ei fflyd bresennol o Gamer芒u Cyflymder Sefydlog i dechnoleg ddigidol, a bwriedir i'r gwaith gychwyn ar 1 Medi. 2020.
Gan weithio mewn partneriaeth 芒 GoSafe a Heddlu Gogledd Cymru, mae cyfanswm o 8 Camera Cyflymder presennol wedi'u nodi i'w disodli sydd wedi'u lleoli yn y lleoliadau canlynol;
听
- A5104 Pontybodkin
- A5119 Sychdyn
- A548 Maes Glas
- A548 Oakenholt
- A550 Ffordd Gladstone, Penarl芒g
- A548 Mostyn
- A549 Mynydd Isa
- B5129 Pentre
听
Bydd gan y camer芒u cyflymder wedi'u huwchraddio yn gallu i weld traffig o'r ddau gyfeiriad teithio, gan barhau i fod yn offeryn effeithiol iawn ar gyfer rheoleiddio cyflymderau cerbydau a lleihau nifer y rhai sy'n cael eu hanafu ar y rhwydwaith priffyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd:
鈥樷橰ydym yn falch ein bod wedi sicrhau鈥檙 cyllid grant mawr ei angen hwn. Fel y gwyddom, mae鈥檙 broblem o oryrru yn destun pryder ymhlith llawer o'n cymunedau lleol ac rwy'n hyderus y bydd yr uwchraddiadau camera arfaethedig yn offeryn gwerthfawr i sicrhau bod ffyrdd y Cyngor yn parhau i fod yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol 鈥.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe:
鈥淢ae鈥檙 systemau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o fuddsoddiad mawr i wella diogelwch ar y ffyrdd yn y lleoliadau hyn. Gyda'r camer芒u yn mynd yn fyw yn y dyfodol agos iawn, rydyn ni'n gobeithio gweld mwy o gydymffurfiad 芒'r terfynau cyflymder a fydd yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb sy'n eu defnyddio.鈥
听