每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Diweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol

Published: 11/06/2020

Gofynnir i Gabinet y Cyngor nodi鈥檙 cynnydd cadarnhaol parhaus sy鈥檔 digwydd ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a chytuno ar yr amserlen ddiwygiedig yn ei gyfarfod ar 16 Mehefin.

Daeth ymgynghoriad y CDLl i鈥檞 archwilio gan y cyhoedd i ben ar 11 Tachwedd 2019, ac ers hynny mae swyddogion wedi bod yn gweithio i brosesu, crynhoi ac ymateb i鈥檙 sylwadau a dderbyniwyd.听 Maent yn gwneud cynnydd da iawn o ran ymateb i鈥檙 sylwadau ac ar y trywydd iawn mewn perthynas ag amserlen Cytundeb Cyflawni鈥檙 CDLl presennol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf materion yn codi o鈥檙 sefyllfa Covid 19 presennol.听

Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru a鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio, cytunwyd dros dro y gall y Cynllun barhau i wneud cynnydd gyda chyn lleied o oedi 芒 phosibl i鈥檙 amserlen bresennol, gan arwain at symud cyflwyniad y Cynllun ar gyfer ei Archwilio o fis Mehefin i fis Hydref eleni, ac archwiliad ffurfiol y Cynllun yn symud o fis Medi i fis Ionawr 2021.听

Ar hyn o bryd mae鈥檙 Cyngor yn edrych am ffyrdd amgen i gyhoeddi鈥檙 rhestr gyflawn o sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i鈥檙 Cynllun i鈥檞 Archwilio gan y Cyhoedd, gan nad yw鈥檔 ymarferol nac yn bosibl iddynt fod ar gael ar bapur mewn nifer o鈥檙 lleoliadau cyhoeddus a ddefnyddir fel arfer. Mae鈥檔 debygol y byddent ar gael yn ddigidol ac ar-lein a bydd y Cyngor yn nodi ac yn cyfathrebu鈥檙 ffyrdd y gall bobl gael mynediad a gweld y rhain.听

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd gallu cynnal y cynnydd ar y strategaeth bwysig hon a gallu rhoi鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf i鈥檙 cyhoedd ar y cynnydd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru鈥檙 amserlen a gwneud hon a鈥檙 rhestr o sylwadau ar gael i鈥檙 cyhoedd. Yn ogystal 芒 hynny, mae dyddiad dros dro o 29 Medi wedi cael ei nodi er mwyn i鈥檙 Cyngor ystyried y Cynllun. Bydd cyflwyno鈥檙 Cynllun ar gyfer ei Archwilio yn cael ei drefnu a鈥檌 amseru i ddilyn hyn yn agos ym mis Hydref 2020. Yna bydd hyn yn ysgogi apwyntiad ffurfiol gan Arolygydd a pharatoadau ar gyfer archwiliad ym mis Ionawr 2021.鈥