Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybrau i Ofal Cymdeithasol
Published: 12/03/2020
Mae Cymunedau Am Waith Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi darparu dwy raglen hyfforddiant 鈥淟lwybr i Ofal Cymdeithasol鈥 yn llwyddiannus unwaith eto, i roi cyfle i bobl leol ennill yr hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sector Gofal Cymdeithasol.听
Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, mae鈥檔 helpu鈥檙 oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith.听 听Mae鈥檙 rhaglen yn targedu oedolion sy鈥檔 economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hir dymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar draws Sir y Fflint.听 听Mae鈥檔 ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal 芒鈥檜 helpu i ddod o hyd i, neu wella eu gobaith o ddod o hyd i waith.
Roedd y cyrsiau uwch Llwybrau i Ofal Cymdeithasol hyn, a gynhaliwyd dros bum niwrnod, yn rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr dderbyn hyfforddiant gorfodol gofynnol i weithio yn y sector Gofal Cymdeithasol.听 听 Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys: diogelu, rheoli haint, diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch, y cyfan yn cynnwys safon a gymeradwy-wyd gan Sir y Fflint i weithio mewn sefydliadau gofal ar draws y sir.听 听 听
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
鈥淢ae鈥檙 cyrsiau "llwybr" hyn yn gyfle gwych i bobl ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith mewn sector sydd o ddiddordeb iddynt.听 听 Nid yn unig mae鈥檙 cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, gallant hefyd fanteisio ar y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.鈥澨
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淥 fewn degawd, mi fydd arnom ni angen 20,000 o bobl ychwanegol i weithio yn y sector gofal yng Nghymru.听 听Mae cyrsiau fel hyn yn gyfle gwych i gyflwyno pobl leol i鈥檙 sector a helpu i uwchsgilio a chefnogi pobl yn y diwydiant i ddal i fyny gyda鈥檙 galw cynyddol am wasanaethau gofal.
鈥淢ae鈥檔 wych bod sawl un o鈥檙 mynychwyr ar y cyrsiau diweddar wedi dod o hyd i waith yng nghynlluniau gofal ychwanegol Sir y Fflint a Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint.鈥澨
Am wybodaeth bellach ynghylch Cymunedau am Waith, neu os hoffech chi gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r rhaglenni llwybr, cysylltwch 芒'r swyddfa ar 01352 704430.
听

听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听