每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn mynd i鈥檙 afael â鈥檙 clefyd coed ynn

Published: 03/03/2020

Pathogen ffwngaidd ydi clefyd coed ynn ac mae鈥檔 effeithio ar goed ynn brodorol y DU; hwn ydi鈥檙 clefyd coed mwyaf arwyddocaol i effeithio ar y DU ers clefyd llwyfen yr Iseldiroedd.

Mae鈥檙 clefyd wedi cyrraedd Sir y Fflint ac fe all effeithio ar filoedd o goed ynn yn y sir. Does dim modd atal lledaeniad y clefyd sy鈥檔 golygu bod yna oblygiadau diogelwch i鈥檙 Cyngor a thirfeddianwyr pan fo coed ynn wrth ymyl pobl neu eiddo.听

Mae鈥檙 Cyngor wedi cyhoeddi a bydd yn dechrau ei arolwg coed ynn fis Mai (dyma鈥檙 adeg orau i edrych ar y coed oherwydd eu bod yn eu dail).听

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淗on fydd y flwyddyn gyntaf i ni arolygu coed ac mae gennym ni gynllun o ran pa ardaloedd y byddwn yn mynd i鈥檙 afael 芒 nhw鈥檔 gyntaf. Yn amlwg, mae鈥檔 bwysig edrych ar y coed sy鈥檔 agos at briffyrdd a mannau cyhoeddus ac felly byddwn yn canolbwyntio ar y rhain yn gyntaf. Mae arnom ni eisiau codi ymwybyddiaeth tirfeddianwyr bod yn rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o鈥檙 clefyd a鈥檌 effeithiau, a sicrhau eu bod yn delio ag unrhyw berygl posibl."听

Dydi clefyd coed ynn ddim bob tro yn golygu y bydd y goeden yn marw ond mae鈥檙 gyfradd goroesi yn isel. Yn 么l tystiolaeth o dir mawr Ewrop mae 10% o鈥檙 coed yn arddangos goddefedd cymedrol a rhwng 1% a 2% yn arddangos goddefedd lefel uchel.听

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir yn cael eu diogelu (e.e. adar nythu, ystlumod a phathewod), sydd eisoes mewn perygl oherwydd colli cynefinoedd coed ynn.听

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau ar gyfer tirfeddianwyr, rheoli coed er diogelwch a gwarchod bywyd gwyllt, ar gael ar wefan y Cyngor .

Ash dieback 1.jpg听 听 听 听听听

Dail heintiedig marw yn crogi ar ganghennau

Ash dieback 2.jpg听 听 听 听 听听

Rhisgl marw yn ffurfio briw si芒p diemwnt o amgylch听cangen ochr farw