每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2020

Published: 31/01/2020

Os nad ydych chi wedi gwneud yn barod, hoffa Cyngor Sir y Fflint eich atgoffa i adnewyddu鈥檆h tanysgrifiad ar gyfer y casgliad gwastraff gardd sy鈥檔 ailddechrau 2 Mawrth, 2020 ac yn cael ei gynnal tan ganol mis Rhagfyr 2020.

Gall preswylwyr gofrestru unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond rydym yn annog pobl i gofrestru'n gynnar er mwyn sicrhau eu bod yn elwa o'r gwasanaeth casglu llawn yn ystod y tymor, yn ogystal 芒'r pris tanysgrifiad gostyngol sydd ar gael cyn 29 Chwefror. Mae tanysgrifiadau cyn y dyddiad hwn, neu ar-lein drwy gydol y tymor, yn 拢32 fesul bin. Ar 么l 1 Mawrth, 2020, bydd pris sylfaenol o 拢35, os nad ydych yn talu ar-lein.

Gall cwsmeriaid newydd gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth unrhyw bryd, drwy ymweld 芒'r wefan, neu drwy ein ffonio ar 01352 701234; bydd ffioedd yn parhau i fod yr un fath fodd bynnag.

Eleni, byddwn yn symud i system dag yn hytrach na sticer ar gyfer eich casgliadau gwastraff gardd yn y bin brown.听 Mae鈥檙 tagiau yn felyn ac maent yn dangos logo 鈥淔鈥 Sir y Fflint a rhif cyfresol unigryw.听 Caiff y tagiau eu hanfon yn uniongyrchol at breswylwyr gyda chyfarwyddiadau sut i glymu鈥檙 tag i鈥檙 biniau brown.听 Rhaid clymu鈥檙 tagiau i ddolen y bin brown a rhaid sicrhau bod modd i鈥檙 criw casglu ei weld yn glir, neu efallai na ch芒nt eu casglu.听 Ni fydd y Cyngor yn casglu biniau gwastraff gardd heb dag dilys wedi鈥檌 glymu iddo.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:听

鈥淵n dilyn blwyddyn lwyddiannus llynedd, rydym yn annog rhagor o breswylwyr i gofrestru鈥檔 gynnar ar gyfer y gwasanaeth poblogaidd hwn, ac elwa o鈥檙 pris gostyngol o 拢32 os ydynt yn cofrestru cyn 29 Chwefror, neu ar-lein.听 Mae鈥檙 gwastraff gardd sy鈥檔 cael ei gasglu yn cael ei gompostio鈥檔 lleol yn y Sir, ac yn cyfrannu i鈥檔 targedau ailgylchu cenedlaethol. Llynedd, fe gasglom ni dros 9,800 tunnell o wastraff gardd, ac rydym yn casglu o dros 33,000 o dai.听 Rydym am sicrhau ein bod yn annog mwy o bobl i ailgylchu eu gwastraff gardd.鈥

Mae'r holl wastraff gardd yn cael ei gompostio yn ein cyfleuster ym Maes Glas, Treffynnon, ac fe anogir i bobl roi rhisgl, gwair, tociadau, torion gwrych, brigau a changhennau bach i mewn i鈥檙 biniau gwastraff gardd.听 Nid ellir defnyddio鈥檙 biniau ar gyfer gwastraff ffrwythau a llysiau, gwastraff bwyd, cardfwrdd, papur, pridd a rwbel na gwasarn anifeiliaid, gwellt anifeiliaid a gwastraff anifeiliaid.