每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn treialu plastig ar y ffyrdd

Published: 21/01/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn treialu defnyddio plastig sydd wedi鈥檌 ailgylchu mewn asffalt i arwynebu darn o鈥檙 briffordd yng Nghei Connah.

Mae Swyddogion Sir y Fflint wedi bod yn gweithio鈥檔 agos gyda MacRebur 鈥渢he plastic road company鈥 sy鈥檔 cynhyrchu鈥檙 plastig wedi鈥檌 ailgylchu a Breedon Southern Limited, sy鈥檔 cymysgu鈥檙 cynnyrch i'r deunydd yn eu safle newydd yn Llai, i weithredu'r treial.听 Bydd yr asffalt yn cael ei osod gan Beirianneg Sifil ac Arwynebu Roadway, is-gwmni Breedon Southern Limited.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淩ydym yn falch o fod yn treialu鈥檙 cynnyrch hwn yn Sir y Fflint, am y tro cyntaf yng Nghymru, fe gredir. Gan weithio gyda MacRebur,听rydym yn archwilio'r posibilrwydd o gynhyrchu'r sylwedd i'w ailgylchu i fod yn darmac o'n casgliadau ymyl palmant.鈥

Dywedodd Sarah, Uwch Reolwr y DU ar gyfer MacRebur:

鈥淩ydym wrth ein boddau ein bod yn gallu helpu Sir y Fflint a Breedons gyda'u treial o'n nwyddau MR. Mae gan Gyngor Sir y Fflint agwedd wych tuag at arloesedd Economi Gylchol, sydd o fudd enfawr i鈥檙 amgylchedd a phoblogaeth Gogledd Cymru. Mae nwyddau MacRebur, sydd nawr yn cael eu defnyddio鈥檔 fyd-eang, yn rhoi鈥檙 cyfle i Sir y Fflint leihau allyriadau carbon ac echdynnu tanwydd ffosil mewn prosiectau arwynebu, a gall hyn arwain at ailgylchu eu gwastraff plastigion untro a gynhyrchir yn lleol yn y dyfodol agos.鈥

Meddai鈥檙 Cynghorydd Paul Shotton, a oedd yn ffigwr allweddol wrth wthio am y treial:

鈥淩ydym wedi bod yn ceisio treialu鈥檙 cynnyrch ers amser maith, a diolch i MacRebur a Breedon Southern Limited, mae wedi digwydd. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae鈥檔 perfformio ac a allwn gyflwyno hyn ar draws Gogledd Cymru.听 Dylai fod yn gryfach, gan greu arwyneb ffordd fydd yn para鈥檔 hirach.鈥

Bydd y deunydd plastig sydd wedi'i ailgylchu yn cael ei ychwanegu i'r cymysgedd tarmac i ddisodli canran y cynnwys bitwmen. Mae MacRebur wedi bod yn datblygu鈥檙 cynnyrch ers sawl blwyddyn ac maent nawr yn gwerthu鈥檙 鈥榖riwsion鈥 sydd wedi鈥檜 hailgylchu i farchnadoedd y DU a thramor.

New Tarmac  (8 of 10).jpg

New Tarmac  (1 of 10).jpg听 听 听听New Tarmac  (5 of 10).jpg听听New Tarmac  (6 of 10).jpg