Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Sir y Fflint o ddifrif am werth cymdeithasol
Published: 26/11/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi penodi swyddog datblygu gwerth cymdeithasol yn ddiweddar 鈥 sydd wedi鈥檌 ymrwymo i wneud y mwyaf o鈥檙 gwerth cymdeithasol sy鈥檔 cael ei greu o ddarpariaeth gwasanaethau鈥檙 cyngor.
Mae鈥檙 penodiad yn amlygu ymrwymiad y cyngor i edrych tu hwnt i bris pob contract unigol, gan ystyried y buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ehangach o ran y gymuned wrth ddyfarnu contractau.听
Mae鈥檙 cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwerth cymdeithasol ers nifer o flynyddoedd, er enghraifft: uchafu gwariant gyda busnesau lleol, creu cyfleoedd sgiliau a gwaith, lleihau gwastraff a鈥檌 effeithiau ar yr amgylchedd lleol a lleihau amddifadedd bwyd a thlodi tanwydd lleol.听
Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Neil Ayling:
鈥淩ydym yn falch o groesawu Olivia Hughes i鈥檙 swydd, ac yn dymuno鈥檔 dda iddi wrth ddarparu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwerth cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i greu mwy o werth cymdeithasol ar draws ein holl wasanaethau, a sicrhau bod y buddion cysylltiedig yn cyrraedd cymaint o bobl, cymunedau a busnesau o fewn ein meysydd gwasanaeth 芒 phosib.鈥
听