Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen Gyfalaf 2021/22 鈥 2022/23
Published: 15/11/2019
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020/21- 鈥 2022/23 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 19 Tachwedd.听
Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn uchelgeisiol ac mae鈥檙 adroddiad cynhwysfawr yn dangos yr uchelgais hwn drwy edrych ar fuddsoddiad mewn asedau yn y dyfodol yn yr hirdymor er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel sy鈥檔 werth am arian.听 听Mae鈥檙 buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos 芒 chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.
Mae mwyafrif y rhaglen wedi cael ei hariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau, ond mae creu derbyniadau cyfalaf sylweddol yn dod yn fwy heriol, wrth i asedau sydd gan y Cyngor ar gyfer eu dosbarthu, leihau. Byddwn yn parhau i ganfod ffynonellau eraill o arian, megis grantiau penodol a chyfraniadau refeniw, ond, byddwn angen defnyddio benthyca darbodus i ariannu mwy o鈥檙 rhaglen wrth symud ymlaen.听
Mae rhai o鈥檙 buddsoddiadau statudol allweddol wedi鈥檜 hamlinellu isod:
- Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl sy鈥檔 darparu addasiadau fel bod trigolion yn gallu parhau i fyw鈥檔 annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a gweithio mewn partneriaeth 芒 Gofal a Thrwsio er mwyn cefnogi trigolion diamddiffyn, yn derbyn dyraniad o 拢1.7 miliwn y flwyddyn.
- Mae dyraniad blynyddol o 拢250,000 i addasu ysgolion ar gyfer plant gydag anableddau, er mwyn cefnogi a chreu amgylcheddau ysgol sy鈥檔 fwy cynhwysol.
- Uwchraddio toiledau mewn ysgolion - 拢100,000 y flwyddyn.
- 拢200,000 i uwchraddio systemau awyru mewn ceginau ysgolion.
- 拢200,000 ar gyfer gwaith archwiliadau t芒n mewn ysgolion y mae鈥檙 Awdurdod Lleol yn gyfrifol amdanynt.
- 拢600,000 i ariannu鈥檙 Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, sy鈥檔 cynnwys ail-wynebu rhwydwaith priffyrdd dosbarthedig, rhaglen amnewid colofnau goleuadau stryd a chynnal a chadw strwythurol.
- Mannau chwarae a chaeau chwaraeon synthetig 鈥 mae dyraniad blynyddol o 拢200,000 yn parhau er mwyn ariannu cyfarpar chwarae newydd, uwchraddio mannau chwarae ac amnewid arwyneb caeau chwaraeon synthetig, sydd mewn cyflwr gwael.
- Bydd rhaglen barhaus ar gyfer uwchraddio isadeiledd TG yn parhau i sicrhau bod parhad busnes a gwasanaeth yn cael ei gynnal.听 Mae rhain yn cynnwys seiberddiogelwch (拢55,000), technolegau storio (拢200,000) a thechnolegau gweinyddol (拢150,000).
Byddwn yn parhau i fuddsoddi鈥檔 sylweddol yn ein hasedau cyfredol, gan gynnwys:
- Ysgol Uwchradd Castell Alun, Yr Hob 拢207,000 2020/21.
- Estyniad i Gartref Preswyl Marleyfield 鈥 cyfanswm o 拢1.381 miliwn dros 2 flynedd.
- Ailddatblygu Theatr Clwyd - 拢500,000 yn 2020/21.
Mae鈥檙 cynlluniau canlynol a gaiff eu hariannu drwy fenthyca, wedi cael eu hystyried yn ofalus oherwydd effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw鈥檙 Cyngor:
- Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif 鈥 mae鈥檙 cynnig hwn wedi ei gynnwys mewn datganiad i鈥檙 wasg ar wah芒n, gan fod yr adroddiad hefyd yn mynd i鈥檙 Cabinet.
- Model Teulu Mockingbird 鈥 yn dyblygu teulu estynedig ac yn grwpio gofalwyr maeth o 6-10 o gartrefi maeth sy鈥檔 cael eu cefnogi gan ofalwr maeth canolog.
- Benthyciad arall i NEW Homes sy鈥檔 adeiladu cynlluniau tai fforddiadwy.
Dywedodd Prif Swyddog Tai ac Asedau Cyngor Sir y Fflint, Neal Cockerton:听
鈥淓r bod y Cyngor yn wynebu her ariannol ddigynsail, rydym wedi gweithio鈥檔 galed i nodi rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol ar gyfer isadeiledd ac ysgolion. Rwy鈥檔 falch ein bod yn gallu cyflawni gwelliannau i鈥檔 rhwydwaith priffyrdd a pharhau i fuddsoddi yn ein hysgolion a chyfleusterau chwaraeon, yn ogystal 芒 chefnogi a diogelu ein trigolion mwyaf diamddiffyn.鈥
听