Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghori ynghylch gwastraff ac ailgylchu
Published: 26/09/2019
Ddydd Mawrth, 24 Medi, cytunodd Cabinet y Cyngor gynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus ynghylch dyfodol y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu.聽
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 25 Medi a 31 Hydref a bydd yn:聽
- Rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth am ein llwyddiant wrth ailgylchu聽
- Rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth am yr hyn sy鈥檔 digwydd i ddeunyddiau ailgylchu聽
- Egluro pam bod angen adolygu鈥檙 gwasanaeth聽
- Darparu gwybodaeth am dueddiadau ailgylchu
- Ystyried y dewisiadau ar gyfer newid y gwasanaeth er mwyn ailgylchu mwy聽
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor a bydd modd i breswylwyr lenwi holiadur byr i ddweud eu dweud. Bydd digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus hefyd yn cael eu cynnal ar draws y sir, lle bydd swyddogion o'r Cyngor wrth law i drafod unrhyw fater yn ymwneud ag ailgylchu.聽
Drwy ddilyn Strategaeth Gwastraff Trefol y Cyngor, mae perfformiad ailgylchu'r Cyngor wedi rhagori ar y targedau statudol pob blwyddyn ers 2014, gyda'r ffigyrau perfformiad diweddaraf yn 68% ar gyfer 2018/2019, sydd bron 芒 chyrraedd y 70% sy鈥檔 ofynnol erbyn 2024/2025.
Mae Llywodraeth Cymru ar ganol adolygu ei pholis茂au cenedlaethol gyda鈥檙 bwriad o ddiwygio targedau yn dilyn dadansoddiad o gyfansoddiad deunyddiau gwastraff sy鈥檔 dangos bod eitemau fel caniau, poteli plastig a gwastraff bwyd yn dal yn cael eu rhoi mewn biniau gwastraff gweddilliol yn hytrach na chynwysyddion ailgylchu.聽 聽
Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淵nghyd 芒 chynghorau eraill yng Nghymru, rydym ni鈥檔 dilyn glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu. Sir y Fflint yw鈥檙 drydedd sir orau yng Nghymru a Chymru yw鈥檙 drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu; rydym ni wedi cyrraedd ein targed o 70% pum mlynedd yn fuan. Mae鈥檙 llwyddiant hwn yn sgil partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor a phreswylwyr, a hoffaf ddiolch i breswylwyr Sir y Fflint am eu rhan fawr yn hyn.聽聽
鈥淔odd bynnag, rydym ni wedi cyrraedd croesffordd. Flwyddyn nesaf bydd yn rhaid i ni adolygu鈥檙 rowndiau er mwyn cynnwys datblygiadau newydd a chludo gwastraff gweddilliol i鈥檙 cyfleuster ynni newydd o wastraff ym Mharc Adfer. Rwan yw鈥檙 amser i gynnwys unrhyw newid i鈥檙 ffordd rydym ni鈥檔 casglu gwastraff, boed yn amlder neu fwy o orfodaeth ac addysg i gynyddu cyfraddau ailgylchu.
鈥淎mlygir yn aml mewn cyfarfodydd rhanbarthol ein bod ni鈥檔 gwneud pethau鈥檔 wahanol i awdurdodau eraill, sydd yn edrych ar gasglu gwastraff gweddilliol yn llai aml. Er ein bod ni鈥檔 effeithlon iawn, mae鈥檔 rhaid i ni ystyried hyn.
鈥淒aw ein Strategaeth Wastraff bresennol i ben yn 2025, ac mae perygl y byddem yn cyrraedd wal ac yn methu鈥檙 targed nesaf os nad ydym ni鈥檔 adolygu pethau. Mae arnom ni hefyd angen mwy o breswylwyr i ailgylchu eu gwastraff bwyd; sy鈥檔 cael ei gludo i gyfleuster gerllaw sy鈥檔 troi鈥檙 gwastraff yn drydan a gwrtaith.
鈥淢ae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu ei glasbrint, gan hepgor rwbel a choed yn y dyfodol, a fydd yn cael effaith negyddol ar ein targed ailgylchu ni.聽
鈥淢ae pwysau gan grwpiau ymgyrchu yn cynyddu, ac mae newid hinsawdd yn bryder go iawn.
鈥淢ae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol wahanu casgliadau cynnyrch iechyd amsugnol, gan gynnwys clytiau, fel rhan o gasgliadau llai aml.聽
鈥淢ae llywodraethau hefyd yn edrych ar ddeddfwriaeth newydd gan gynnwys 鈥渃yfrifoldeb cynhyrchwyr鈥 ac mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch targedau ailgylchu ar gyfer busnesau, yn ogystal ag aelwydydd.
鈥淩ydym ni鈥檔 sylweddoli nad yw un gwasanaeth yn addas i bawb, a bod angen dulliau gwahanol mewn rhai ardaloedd.
鈥淗offaf annog pob preswylydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud ei ddweud am ddyfodol gwasanaethau ailgylchu a gwastraff.鈥澛
Os hoffech chi siarad gyda ni ynglyn 芒鈥檙 gwasanaeth, cynhelir sesiynau聽galw heibio yn y lleoliadau canlynol.
Canolfan Bwcle yn Cysylltu - Dydd Llun 7 Hydref, 10am-2pm
Canolfan yr Wyddgrug yn Cysylltu - Dydd Mercher 9 Hydref, 10am-2pm
Canolfan y Fflint yn Cysylltu - Dydd Gwener 18 Hydref, 10am-2pm
Canolfan Cei Connah yn Cysylltu - Dydd Mawrth 15 Hydref, 10am-2pm
Canolfan Treffynnon yn Cysylltu - Dydd Iau 17 Hydref, 10am-2pm
Cysylltwch a ni: 01352 701234