Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ac Ysgolion Craidd
Published: 19/09/2019
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais i gynnwys dau brosiect arall yn ei Raglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ac Ysgolion Craidd pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn.
Y prosiectau yw Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti, Shotton. Bydd y costau yn cael eu rhannu dros 2019/20 a 2020/2021 a鈥檜 hariannu drwy fenthyca darbodus a grant Llywodraeth Cymru gyda chostau refeniw cysylltiedig yn cael eu gosod yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor o 2020/21 ymlaen.
Mae鈥檙 Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sicrhau cyfanswm sylweddol o gyllid o Grant Gofal Plant LlC ar gyfer prosiectau amrywiol, gyda dau ohonynt 芒 chysylltiad strategol 芒鈥檙 ddau brosiect addysg arfaethedig Ysgol Croes Atti (safle Shotton) ac Ysgol Brynffordd.听
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae'r arian grant gan Lywodraeth Cymru'n cael ei groesawu'n fawr. Ond mae yna gyfyngiad amser ac mae angen ei wario erbyn 2021. Byddai鈥檔 gwneud synnwyr yn economaidd i ystyried uno ffrydiau ariannol i symleiddio鈥檙 prosiectau hyn a lleihau costau yn ogystal 芒 lleihau unrhyw darfu ar yr ysgolion.听
Er mwyn sicrhau鈥檙 gwerth gorau dylid rhoi ystyriaeth i uno鈥檙 cyllid i ffurfio un prosiect. Pe byddai鈥檙 prosiectau鈥檔 cael eu huno byddai angen i'r adeiladu fynd ymlaen yn 20/21 ac amcangyfrifir y byddai cyfrifoldeb Sir y Fflint dros y prosiect hwn yn 拢988,000 yn 20/21 gyda 5% neu 拢52,000 yn 21/22.
Byddai buddsoddi yn y ddau gynllun arfaethedig yn Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti (Shotton) yn arwain at gyfanswm buddsoddiad o 拢2,655,000, a byddai 拢1,362,500 o hwn yn dod o gyllid allanol LlC.听
听
听