每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Mary yn 100 oed!

Published: 18/09/2019

Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i ddathlu pen-blwydd arbennig.

Fe aeth y Cynghorydd Marion Bateman a鈥檌 Chymar y Cynghorydd Haydn Bateman i gwrdd 芒 Mrs Mary Gray yng Nghartref Gofal Hollybank yn Shotton, lle cynhaliwyd parti a chyngerdd iddi er mwyn nodi鈥檙 achlysur arbennig.

Ganed Mary yn Lerpwl a bu鈥檔 byw gyda鈥檌 rhieni a鈥檌 brawd Jack yn agos iawn i ganol y ddinas. Fe wnaethant brofi'r bomio dychrynllyd yn ystod y rhyfel, ac mae hi鈥檔 dal i gofio鈥檙 dinistr, yn cynnwys ffenestri鈥檙 ty yn cael eu chwalu.Llwyddodd y pedwar i oroesi diolch i鈥檙 drefn.

Fe gyfarfu 芒鈥檌 gwr George ac fe wnaethant briodi yn 1940 a chael tri o blant, Linda, John a David.Yn 1953 symudodd y teulu i Frychdyn wrth i George gychwyn gweithio yn ffatri鈥檙 maes awyr. Yn anffodus bu farw George yn sydyn yn 59 oed. Erbyn hyn roedd Mary yn byw ym Mwcle, a chafodd gymorth ei mam, ei theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod trasig yma.

Mae gan Mary wyth o wyrion ac wyresau, 13 gor-wyr a gor-wyres, ac yn 100 oed, mae synnwyr digrifwch Lerpwl yn dal i fod ganddi, mae hi wrth ei bodd gyda gwydraid o win bob hyn a hyn, canu a dawnsio. Fe fydd hi鈥檔 mwynhau dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed gyda鈥檌 theulu a'i ffrindiau agos.

_DSC5238.JPG听 听 听 听 _DSC5251.JPG