Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu Gostyngiad Person Sengl
Published: 10/09/2019
Bydd gwiriad yn cael ei gynnal cyn bo hir ar y rheiny sy'n talu Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ac yn derbyn gostyngiad o 25 y cant oddi ar eu bil oherwydd eu bod yn byw ar eu pen eu hunain, i wneud yn siwr bod y gostyngiadau鈥檔 gywir. Mae hwn yn ymarfer rheolaidd, a chynhaliwyd adolygiad tebyg yn 2017.
Bydd Datatank Ltd, sef darparwr gwasanaeth blaenllaw sy鈥檔 arbenigo yn yr adolygiadau hyn, yn cydweithio 芒鈥檙 Cyngor i gadarnhau鈥檙 gostyngiad ar gyfer hawlwyr dilys ac i ganfod unigolion sy'n hawlio gostyngiad Treth y Cyngor heb hawl i wneud hynny.听
Os bydd hawliadau anghywir yn cael eu canfod, bydd y Cyngor yn rhoi鈥檙 gorau i鈥檙 hawliadau ac yn ceisio adennill y gostyngiad o ddyddiad priodol ymlaen.
Ar hyn o bryd mae dros 22,470 o drigolion - bron i un o bob tri chartref - yn hawlio gostyngiad person sengl.听 Er bod mwyafrif helaeth y trigolion hyn yn hawlio'r gostyngiad yn gywir, mae鈥檔 bosib y bydd achosion lle nad yw'r Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth aelwyd a all effeithio ar y gostyngiad, neu bydd gostyngiad wedi鈥檌 hawlio鈥檔 anghywir yn fwriadol.听 听
Anogir unrhyw drethdalwyr sy鈥檔 derbyn gostyngiad ac sy'n teimlo nad yw鈥檔 gywir, i gysylltu 芒 gwasanaeth Treth y Cyngor ar unwaith ar (01352) 704848 cyn i鈥檙 adolygiad llawn ddechrau ym mis Medi.听
听