Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn croesawu 21 o brentisiaid newydd
Published: 10/09/2019
Cyfarfu Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, ac Arweinydd y Cyngor, Ian Roberts, 芒鈥檙 recriwtiaid newydd ar ddiwrnod cyflwyno yn Academi Dysgu a Datblygu'r Cyngor yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain.
Caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio bob blwyddyn i ddatblygu sgiliau proffesiynol i ddechrau yn eu gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys busnes, cyfrifyddiaeth, TGCh, cefn gwlad, a gwaith saer, yn ogystal ag fel gweithwyr Strydwedd.
Mae鈥檙 criw eleni鈥檔 cynnwys prentis a fydd yn gweithio gyda Hamdden a Llyfrgelloedd Aura yn yr adran gyllid.
Mae鈥檙 prentisiaid fel arfer yn mynd i鈥檙 coleg un diwrnod yr wythnos i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ac yn ennill profiad gwerthfawr o weithio i鈥檙 cyngor ac ennill cyflog.听听听
Mae Dysgu a Datblygu hefyd wedi cyflogi gweithiwr lefel uwch dan hyfforddiant mewn TG a fydd yn gallu parhau i ennill ei gymwysterau wrth weithio ym maes ei ddewis o yrfa.
Mae prentisiaid hefyd yn gwirfoddoli ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol fel rhan o鈥檙 fframwaith Brentisiaid sy鈥檔 gwella eu profiad dysgu.
Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:
鈥淢ae bob amser yn bleser cael croesawu ein prentisiaid ac rwy鈥檔 dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt ddechrau ar eu taith i gyflogaeth.听 Mae nifer o鈥檔 prentisiaid wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus yn y crefftau a鈥檙 proffesiynau y maent wedi eu dewis. Mae鈥檙 ffaith fod 97% o鈥檙 rhai sydd ar ein cynllun yn sicrhau cyflogaeth neu leoedd mewn addysg uwch ar ddiwedd eu prentisiaeth yn deyrnged i鈥檙 rhaglen a鈥檔 partneriaeth gyda Choleg Cambria.鈥
听
