每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Digwyddiad Ail Ryfel Byd Talacre

Published: 01/08/2019

Roedd ysbryd yr Ail Ryfel Byd yn amlwg iawn yn Nhalacre yn ddiweddar. Er gwaethaf y glaw, roedd y penwythnos yn llwyddiant mawr.

Daeth bobl leol ac ymwelwyr yno鈥檔 llu gyda dros 650 yn ymweld ag arddangosfeydd y Ganolfan Gymunedol ac eraill yn mynd i edrych ar yr arddangosiadau allanol.

Tu mewn, swynwyd yr ymwelwyr gan ffilm CGI o鈥檙 awyrennau Spitfire a鈥檙 profiad rhithwir o fod wrth y llyw mewn awyren yn cymryd rhan mewn ymgyrch fomio dros Berlin. Manteisiodd nifer ar y cyfle i gyffwrdd arteffactau鈥檙 ffrynt cartref fel mygydau nwy a ratl rhybudd ARP ac roedd y plant yn mwynhau gwisgo dillad o鈥檙 cyfnod. Rhoddodd pobl ifanc a hen gynnig ar greu carthenni cadachau gyda nifer o鈥檙 merched hyn yn dangos y technegau roeddent wedi eu dysgu fel pobl ifanc. Ychwanegodd Professor Llusern a鈥檌 deulu at yr awyrgylch gyda chaneuon o gyfnod y rhyfel, ac ymunodd Miriam, ail-gr毛wr ENSA, ag o鈥檔 ddiweddarach gyda鈥檌 acordion.听

Roedd awyren Spitfire yn cael lle blaenllaw tu allan ac roedd ymwelwyr yn mwynhau clywed swn pwerus injan y Merlin Meteor a oedd yn cael ei danio鈥檔 rheolaidd.

Roedd nifer dda o bobl yn ddigon dewr i fentro'r elfennau i ymweld 芒 gwaith cloddio archeolegol sy'n digwydd o amgylch safle rhai o'r cabanau. Arddangoswyd yr arteffactau niferus a ddarganfuwyd, gan gynnwys darnau o lestri a chasys bwledi gwag, yn y Ganolfan Gymunedol ddydd Sul.

Difethwyd yr hwyl beth cyntaf fore Sul ryw gymaint gan y glaw trwm dros nos, ac roedd rhai o鈥檙 ail-grewyr a鈥檜 harddangosiadau yn rhy wlyb i barhau tu allan. Fodd bynnag, Pwyllwch a Daliwch Ati oedd y moto wrth i鈥檙 arddangosiadau gael eu had-drefnu yn y Ganolfan Gymunedol i greu lle ar gyfer ail-grewyr ac fe鈥檔 gwobrwywyd gan lif cyson o ymwelwyr drwy gydol y dydd, ac roedd pob un ohonynt yn frwd iawn.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman:听

鈥淒iolch arbennig i gadetiaid yr awyrlu, a wirfoddolodd drwy gydol y penwythnos i helpu gweithrediad esmwyth y digwyddiad. Diolch i鈥檙 gwirfoddolwyr lleol a鈥檙 t卯m o Ganolfan Gymunedol Talacre, sydd wedi bod mor gefnogol drwy gydol y prosiect. Hoffwn hefyd gydnabod y busnesau lleol sydd wedi cefnogi鈥檙 prosiect, gan ddarparu lluniaeth i wirfoddolwyr, cynnal digwyddiadau neu ariannu cyhoeddusrwydd ac i ENI UK Bae Lerpwl, sydd wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy.鈥

Aeth Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas, i ysbryd y dydd, gan gael ei llun wedi ei gymryd wrth y Spitfire yn gwisgo siaced hedfan yr Awyrlu! Dywedodd:

鈥淩oedd yn wych i wylio'r lluniau ffilm anhygoel a sgwrsio 芒鈥檙 ail-grewyr a phawb oedd yn cymryd rhan yn yr arddangosiadau gan fod pob un ohonynt mor wybodus.鈥

Roedd Mrs Gouldsmith o Leek, Swydd Stafford, yn aros mewn caraf谩n gerllaw, a daeth ei theulu gyda hi. Dywedodd:

鈥淢ae wedi bod yn ddiddorol iawn. Arhosom ni bron iawn drwy鈥檙 dydd ac aethom i weld popeth! Roedd rhywbeth at ddant pawb. Roedd fy wyres 5 oed wrth ei bodd yn gwisgo i fyny a chreu carthenni o gadachau a鈥檙 atyniad rhith-wir oedd ffefryn ein plentyn yn ei arddegau.鈥

Roedd Dorothy Norman, 82 oed, sy鈥檔 cofio鈥檙 rhyfel ei hun, wrth ei bodd gyda鈥檙 digwyddiad, gan ddweud:听

鈥淩oeddwn wrth fy modd i sefyll wrth ymyl Spitfire ac mi wnes i fwynhau darllen yr holl arddangosiadau yn y ganolfan!听

Roedd Lynne Topple gyda鈥檌 thad, Peter Cocker, a ddaeth i Dwyni Talacre fel faciw卯 yn dianc rhag Blits mis Mai yn Lerpwl.

鈥淩oedd mor arbennig i glywed fy nhad yn rhannu ei hanesion o gyfnod y rhyfel.鈥

Y digwyddiad hwn oedd penllanw prosiect 鈥楾alacre Ddoe a Heddiw鈥, a arweiniwyd gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, a鈥檌 ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru a Chadwyn Clwyd.听

1.JPG

Y Cynghorydd Marion Bateman, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint gyda David Hanson AS
yng nghaban y faciw卯

3.JPG

Y Comodor Awyr Adrian Williams gydag Awyr-ringyll o gadetiaid Awyr Prestatyn a Macsen a Cadi Baglin

2.jpg

Y Cynghorydd Carolyn Thomas yn mynd i ysbryd yr Awyrlu

5.jpg

Ava Dixon, Dee Dixon a Tom Dixon, Kim Norman a Dorothy Norman

4.JPG

Liz Gouldsmith a鈥檌 hwyres Nancy Clowes yn rhoi cynnig ar greu carthenni cadachau