每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ynglyn â gweithwyr mudol

Published: 24/03/2015

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint Colin Everett: 鈥淢aer Cyngor yn parhau i weithio gydar gweithwyr mudol iw helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, naill ai yn yr ardal leol, mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig neu eu helpu i ail-wladoli.鈥 鈥淢ae ychydig llai na 50 o鈥檙 gweithwyr mudol a arhosodd am un noson yn y ganolfan dderbyn mewn argyfwng yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon i gyd bellach wedi symud i lety dros dro yn yr ardal leol. Maer Ganolfan Hamdden bellach ar agor fel arfer. Bydd tua 40 o weithwyr a arhosodd am ddwy noson mewn ail ganolfan dderbyn mewn argyfwng yn y rhanbarth yn symud i lety dros dro heddiw. Mae pob un ohonynt wedi parhau 芒鈥檜 gwaith dyddiol ers symud or eiddo yn Sealand ddydd Sul.鈥 鈥淣id yw unrhyw un or opsiynau ailgartrefu dros dro syn cael eu cynnig ir rhai syn dymuno aros yn lleol yn golygu dyrannu tai cyngor a thai cymdeithasol eraill y mae rhestrau aros ar eu cyfer.鈥 Mae gorchmynion gwahardd wedi cael eu rhoi ar y safle yn Sealand ac ystyrir cymryd camau i erlyn y perchnogion.鈥 Cefndir Diben y gweithrediad a gynhaliwyd ddydd Sul 22 Mawrth, y cyntaf oi fath yn Sir y Fflint, oedd gwarchod lles nifer fawr a chynyddol o weithwyr mudol a oedd wedi eu cartrefu mewn modd amhriodol ar safle anniogel ac anghyfreithlon yn yr ardal Sealand. Gweithrediad amlasiantaethol oedd hwn yn cynnwys y Cyngor, yr Heddlu, y Gwasanaeth T芒n, y Gwasanaeth Iechyd, adrannaur Llywodraeth ar Groes Goch Brydeinig a oedd yn darparu cymorth dyngarol yn 么l y gofyn. Gallai鈥檙 gweithrediad fod wedi dilyn sawl trywydd yn dibynnu ar y sefyllfa y deuid o hyd iddi ar y safle. Cafwyd tua 100 o weithwyr mudol wedi eu cartrefu ar safle cwbl anaddas ac anniogel ac nid oedd gan yr asiantaethau partneriaethol unrhyw ddewis ond caur safle鈥檔 syth 芒 gorchmynion gwahardd brys a chludo鈥檙 preswylwyr i ganolfan dderbyn. O ystyried cynifer o bobl y daethpwyd o hyd iddynt bu鈥檔 rhaid i鈥檙 asiantaethau partneriaethol agor ail ganolfan dderbyn mewn argyfwng yn ychwanegol ir brif ganolfan dderbyn a oedd eisoes wedi ei chynllunio fel cynllun wrth gefn. Roedd y gweithwyr mudol yn barod i gydweithredu ac mae llawer wedi mynegi rhyddhad bod modd iddynt bellach gael gafael ar gyngor a chymorth mewn perthynas 芒u lles ar 么l byw o dan y fath amodau erchyll. Roedd y brif ganolfan dderbyn yn un arbenigol sydd wedi ei lleoli yn y rhanbarth. Lleolwyd yr ail ganolfan dderbyn yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon sydd wedi ei rhestru yn ein cynlluniau argyfwng iw defnyddio fel canolfan dderbyn mewn argyfwng, a llwyddwyd i gael defnydd ohoni ar fyr rybudd. Mae pob un or gweithwyr mudol yn wladolion Ewropeaidd y mae ganddynt hawl i symud yn rhydd. Does dim un ohonynt yn fewnfudwr anghyfreithlon. Nid ydynt ychwaith wedi torri鈥檙 gyfraith mewn unrhyw ffordd. Maent i gyd yn bobl a ddaeth ir Deyrnas Unedig i ddod o hyd i gyflogaeth.