Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhoi Siâp ar Shakespeare
Published: 23/02/2015
Mi fydd penillion a sonedau Shakespeare yn adleisio o amgylch ysgolion cynradd
Sir y Fflint fel rhan o fis 鈥楻hoi Si芒p ar Shakespeare鈥 y mis Mawrth hwn.
Mi fydd disgyblion yn gweithio ochr yn ochr 芒鈥檙 ysgrifennwr llwyfan a
chyfarwyddwr proffesiynol Janys Chambers, dawnsiwr/coreograffydd proffesiynol,
artist gweledol proffesiynol a chyfarwyddwr ymladd proffesiynol fydd yn
cyflwyno ac archwilio stori anhygoel Macbeth.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg:
鈥淢ae Rhoi Si芒p ar Shakespeare yn gyfle gwych i ysgolion Sir y Fflint weithio ag
artistiaid proffesiynol ac i gyfoethogi鈥檙 cwricwlwm 芒 chreadigrwydd, fydd yn
ymgysylltu plant 芒鈥檜 dysgu. Mi fydd modd i aelodau鈥檙 gymuned gymryd rhan hefyd
drwy gyfres o weithdai hwyl ar draws y sir, 芒r bwriad o ddatguddio
Shakespeare, ac wedi鈥檜 harwain gan yr ysgrifennwr a chyfarwyddwr proffesiynol
Janys Chambers, sydd wedi鈥檌 henwebu ar gyfer gwobr BAFTA.鈥
Mi fydd y gweithdai cymunedol yn cyffwrdd 芒 dirgelwch rhyfeddol bywyd
Shakespeare a sut le oedd theatrau oes Elisabeth.
Mi fydd y grwp yn darllen ac archwilio golygfeydd dethol, gan edrych ar
straeon, ystyr geiriau, them芒u a delweddau, cymeriad, a beth yn union yw鈥檙
mesur moel. Caiff golygfeydd eu hactio ac fe gaiff darlleniad ei ymarfer a鈥檌
gynnal ar ddiwedd y dydd.
Mae鈥檙 gweithdy i bawb dros 16 oed sydd eisiau dysgu ychydig mwy am Shakespeare.
Caiff y rhain eu cynnal yn:
Llyfrgell Treffynnon (01352 713157) 鈥 Dydd Llun 30 Mawrth
Llyfrgell Brychdyn (01244 533727) 鈥 Dydd Mawrth 31 Mawrth
Llyfrgell y Fflint (01352 703737) 鈥 Dydd Mercher 1 Ebrill
Llyfrgell yr Wyddgrug (01352 754791) 鈥 Dydd Iau 2 Ebrill
Mae pob gweithdy鈥檔 costio 拢5; i archebu lle cysylltwch 芒鈥檙 llyfrgell yn
uniongyrchol.
Mae 鈥楻hoi Si芒p ar Shakespeare鈥 wedi ei gydlynu gan Adain Y Celfyddydau,
Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint.
Nodyn y golygydd:
Cysylltwch ag ysgolion/llyfrgelloedd unigol am gyfle i gael tynnu llun.
Caiff gweithdai eu cynnal am 9.30am tan 3pm mewn ysgolion, 10am tan 4pm mewn
Llyfrgelloedd.
Mae鈥檙 sesiynau mewn ysgolion wedi鈥檜 rhestru isod:
Ysgol Bryn Pennant, Mostyn, CH8 9NU: Dydd Llun 23 Mawrth
Ysgol Gronant, LL18 9YP: Dydd Mawrth 24 Mawrth
Ysgol Gwynedd, y Ffllint, CH6 5NF: Dydd Mercher 25 Mawrth
Ysgol Estyn, H么b, LL12 9NL: Dydd Iau 26 Mawrth
Ysgol Bryn Deva, Cei Connah, CH5 4SN: Dydd Gwener 27 Mawrth.