每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint mewn Busnes yn cynnal digwyddiad Cysylltedd Digidol

Published: 12/07/2019

Yn ddiweddar croesawodd y t卯m Busnes yng Nghyngor Sir y Fflint gynrychiolwyr o fusnesau lleol i weithdy ar bwysigrwydd cysylltedd digidol.

Darparodd Niall Waller, Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio, fanylion am flaenoriaethau Strategaeth Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru, yn cynnwys trosolwg o:

鈥⑻ Gynyddu darpariaeth isadeiledd ffeibr

鈥⑻ Isadeiledd o鈥檙 radd flaenaf ar gyfer safleoedd cyflogaeth strategol

鈥⑻ Gwell cysylltedd ar hyd llwybrau strategol

鈥⑻ Datblygu datrysiadau i ddiwallu anghenion cymunedau gwledig

鈥⑻ Cynyddu nifer y busnesau sy鈥檔 mabwysiadu technolegau newydd

鈥⑻ Llenwi mwy o fylchau o ran darpariaeth cysylltedd digidol cyflym iawn

鈥⑻ Adnoddau - 拢9m wedi鈥檌 sicrhau drwy鈥檙 Rhwydwaith Ffeibr Cyflym Lleol a鈥檙 拢34m arfaethedig drwy Fargen Dwf Gogledd Cymru

Yna fe esboniodd Rachael Evens, Pennaeth Masnachfraint a Marchnata i gwmni Jackson Fire & Security, Yr Wyddgrug, sut yr oedd eu busnes wedi croesawu cysylltedd digidol ac o ganlyniad wedi gweld gwelliant o ran effeithlonrwydd busnes a phroffidioldeb.

Dywedodd Steve Jackson, Rheolwr Gyfarwyddwr Jackson Fire & Security:

鈥淩oeddem yn falch iawn o fod yn rhan o鈥檙 digwyddiad cysylltedd digidol a chael y cyfle i ddangos sut mae cysylltedd digidol wedi gwella ein prosesau busnes. Braf oedd cael rhwydweithio 芒 busnesau eraill yn Sir y Fflint a chael clywed sut mae cysylltedd digidol wedi helpu cynhyrchiant eraill hefyd. Digwyddiad ardderchog ac roeddem yn ddiolchgar iawn o gael cymryd rhan鈥. 听听听

Darparodd Karlos O鈥橬iell, Rheolwr Partneriaethau, Cyflymu Cymru I Fusnesau, drosolwg o鈥檙 cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau er mwyn galluogi cysylltedd digidol, yn cynnwys cynlluniau talebau i gefnogi isadeiledd.

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn wasanaeth cymorth rhad ac am ddim i fusnesau, sy鈥檔 helpu busnesau bychain a chanolig cymwys yng Nghymru i wneud y mwyaf o dechnoleg ar-lein, hybu gwerthiant a gwella cynhyrchiant. I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ewch i .

FCC-Digital-Network-Small-Ginger-Pixie-Photography (14 of 44).jpg听 听 听听FCC-Digital-Network-Small-Ginger-Pixie-Photography (21 of 44).jpg