每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith i ddechrau ar welliannau i鈥檙 ysgol

Published: 24/06/2019

Mae gwelliannau i ysgol gynradd yn Sir y Fflint wedi symud cam yn agosach.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi y bydd gwaith yn dechrau ar Ysgol Glan Aber, Bagillt ar 15 Gorffennaf.聽

Bydd Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi dros 拢2.3m i drawsnewid Ysgol Glan Aber yn ysgol sy鈥檔 addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae hyn yn cynnwys 拢1.3m o nawdd Llywodraeth Cymru i ostwng maint dosbarthiadau babanod trwy greu ystafell ddosbarth ychwanegol, a fydd yn caniat谩u鈥檙 athrawon roi mwy o amser a sylw unigol i bob un o鈥檜 disgyblion.聽 Bydd y nawdd hefyd yn darparu neuadd newydd a chyfleusterau bwyta.

Mae鈥檙 Cyngor wedi penodi cwmni lleol Kier Construction, a leolir yn Wrecsam i ymgymryd 芒鈥檙 gwaith gwella hwn.聽 Mae鈥檙 cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru a rhaglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor.聽 聽聽

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

鈥淒yma fuddsoddiad pwysig iawn i Ysgol Gan Aber, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i ddiogelu nawdd i barhau i wella a diweddaru ein hysgolion.聽 Bydd y cyfleusterau modern hyn ar gyfer ein pobl ifanc a鈥檙 gymuned ehangach yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig newydd i鈥檔 plant ysgol.鈥澛犅

Dywedodd Peter Commins, rheolwr gyfarwyddwr Kier Regional Building North West:

"Rydym yn falch iawn o barhau ein perthynas gyda Sir y Fflint, ac yn edrych ymlaen yn arw at ddechrau ar y safle yn Ysgol Glan Aber. Bydd y gwelliannau hyn yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu modern i staff a disgyblion yr ysgol am flynyddoedd i ddod."聽

Ysgol Glan Aber 01.jpg