Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canmoliaeth i weithwyr y cyngor ar ôl tywydd garw
Published: 21/06/2019
Mae Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint wedi canmol gweithwyr y Cyngor ar 么l y tywydd garw yn yr ardal yr wythnos ddiwethaf.
Yn dilyn tri diwrnod o law trwm roedd llifogydd ar ffyrdd, dwr wedi llifo i mewn i dai a choed wedi disgyn. Roedd llawer o weithwyr y cyngor yn rhan o鈥檙 ymateb i鈥檙 llifogydd, gan weithio oriau maith mewn amodau erchyll.听 Ail-glustnodwyd 150 o ddyddiau gweithredol o wasanaethau eraill i ymateb i ddigwyddiadau'n ymwneud 芒 llifogydd.听听
Rhoddodd ein gweithwyr 4,000 o fagiau tywod i drigolion a busnesau ac ymatebwyd i bron 350 cais unigol am gymorth yn ymwneud 芒 199 gwahanol eiddo, a chafodd pob un y gefnogaeth angenrheidiol.
Dioddefodd y rhwydwaith priffyrdd ddifrod sylweddol mewn sawl ardal o ganlyniad i'r llifogydd. Roedd hyn yn cynnwys llithriadau tir mawr, ffyrdd wedi鈥檜 tanseilio ac arwynebau ffyrdd wedi鈥檜 difrodi gan y llifogydd. Bydd y Cyngor yn ymweld 芒 phob un o'r safleoedd hyn ac yn gwneud gwaith trwsio dros y misoedd i ddod.听听
Yn y cyfamser, aeth gwaith dydd i ddydd y cyngor yn ei flaen gyda dim ond ychydig o darfu ar y gwasanaethau gwastraff cartref ac ailgylchu, gwasanaethau cludiant (ysgolion, cyhoeddus a gofal cymdeithasol oedolion) a gwasanaethau profedigaeth.
Daeth y tywydd garw a heriau yn ei sgil hefyd i鈥檙 Gwasanaethau Cymdeithasol sy鈥檔 cefnogi dros 70 o bobl fregus yn eu cartrefi.听 Oherwydd y llifogydd difrifol roedd yn anodd i weithwyr gyrraedd at bobl oedd angen help.听 Er gwaethaf hyn, dangosodd y gweithwyr eu dyfeisgarwch a鈥檜 penderfyniad ac fe wnaethant lwyddo i gynnal y gwasanaeth ar gyfer pawb yn ddiwah芒n.听 听Rhannodd y gweithwyr gerbydau gan gefnogi ei gilydd yn yr amodau gyrru anodd.
Arhosodd yr holl adeiladau gofal preswyl a gofal ychwanegol ar agor a chynigiwyd gweithgareddau dan do ychwanegol i bobl a benderfynodd aros yn ddiogel yn eu cartrefi.
Estynnodd y Ganolfan Gyswllt ei horiau agor gan gymryd dros 1,100 o alwadau rhwng dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:听
鈥淒ros gyfnod o dywydd erchyll pan ddisgynnodd lefel ddigynsail o law mewn ychydig iawn o amser, rhoddodd y Cyngor ymateb rhagorol ochr yn ochr 芒'i bartneriaid yn y gwasanaeth t芒n, yr heddlu a'r cwmn茂au gwasanaethau.
鈥淕an weithio mewn amodau anodd, brwydrodd gweithwyr y cyngor yn erbyn yr elfennau i symud coed wedi disgyn, ailagor ffyrdd, clirio ceuffosydd, helpu mewn cartrefi lle'r oedd dwr wedi mynd i mewn a symud adnoddau i'r mannau lle'r oedd fwyaf o'u hangen.
鈥淗offwn ddiolch i holl weithwyr y cyngor a oedd yn rhan o'r ymdrech anhygoel hon.听 Rwy鈥檔 siwr fy mod yn siarad ar ran yr holl gynghorwyr wrth ddweud fod pawb cysylltiedig wedi rhoi ymateb aruthrol o dda.鈥
Meddai鈥檙 Prif Weithredwr, Colin Everett, a oedd yn gyfrifol am gydlynu ymateb y Cyngor:听
鈥淩wyf eisiau diolch ar ran t卯m y Prif Swyddogion i鈥檔 gweithwyr ymroddgar am eu gwytnwch a鈥檜 hymrwymiad yn ystod y cyfnod hwn o dywydd garw eithafol. Fe wnaeth y rhai hynny a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig 芒 chynnal gwasanaethau a helpu pobl fregus waith hollbwysig dan amgylchiadau heriol dros ben.
鈥淵n ystod cyfnodau anodd fel hyn gellir gweld y Cyngor a鈥檌 bobl ar eu gorau ac mae llawer ohonoch wedi gwneud gwaith amhrisiadwy yn eich gwasanaethau a'ch cymunedau."听听
Roedd Cyngor Sir y Fflint yn rhan o ymateb amlasiantaeth drwy gydol y cyfnod.听听
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y cafodd Sir y Fflint deirgwaith yn fwy o law nag sydd fel arfer yn disgyn yn ystod mis Mehefin dros gyfnod o ddim ond 72 awr.听
听