每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Monitro teledu cylch caeedig

Published: 14/06/2019

Roedd Cabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi uno鈥檙 swyddogaeth monitro teledu cylch caeedig gyda Wrecsam.

Mae鈥檙 system teledu cylch cae毛dig yn cael ei monitro o ystafell fonitro ddiogel yn Rhan 3 Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Ychydig iawn o gyfalaf sydd wedi鈥檌 fuddsoddi yn yr ystafell rheoli teledu cylch cae毛dig. Gan fod Rhan 3 i gael ei dymchwel yn fuan, byddai angen symud yr ystafell beth bynnag; ni allai aros ble mae hi.听

Mae nifer o ddewisiadau wedi鈥檜 hystyried, ond yr un mwyaf ffafriol a chost-effeithiol yw adleoli鈥檙 gwasanaeth i Wrecsam. Byddai hyn yn darparu gwasanaeth teledu cylch cae毛dig ar y cyd sy鈥檔 cael ei reoli gan Wrecsam.

Mae cyfleuster Wrecsam yn Nhwr Rhydfudr yn fodern gyda digon o le i bartneriaid ychwanegol; mae lle i sgrin ar y wal, sy'n cael ei defnyddio gan d卯m teledu cylch caeedig Sir y Fflint eisoes, ac mae desgiau yno'n barod. Bydd y dewis i uno gwasanaethau鈥檔 rhoi'r gwytnwch angenrheidiol i'r partneriaid ac yn cynorthwyo'r ddwy ochr i reoli costau'n fwy effeithiol.听

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:听

"Er nad yw darparu gwasanaeth teledu cylch cae毛dig yn statudol, mae'n fantais sylweddol a chadarnhaol i gymunedau ac mae'n rhoi sicrwydd.

"Mae teledu cylch cae毛dig yn cael ei weld mewn nifer o gymunedau fel cyfrannwr mawr at atal troseddu. Fodd bynnag, mae cynnal cyfleuster yn ddrud ac mae angen ystyried arbedion maint mewn unrhyw fodel gwasanaeth yn y dyfodol. Mae darparu gwasanaethau teledu cylch cae毛dig ar y cyd trwy Wrecsam yn cael ei gyfrif yn beth cadarnhaol i ddangos ein bod yn cydweithio, i rannu costau a sicrhau gwasanaeth cynaliadwy."