每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn ennill yng Ngwobrau GeoPlace

Published: 07/06/2019

Yng Nghynhadledd GeoPlace a gynhaliwyd yn Llundain yn ddiweddar, enillodd Cyngor Sir y Fflint:听

  • Y Gorau yn Rhanbarth Cymru mewn cydnabyddiaeth am reoli cronfa ddata gwybodaeth cyfeiriadau, ynghyd 芒 Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Gwobr Perfformiad Aur mewn cydnabyddiaeth am y ffordd mae鈥檔 rheoli cronfa ddata gwybodaeth cyfeiriadau
  • Gwobr Perfformiad Aur mewn cydnabyddiaeth am y ffordd mae鈥檔 rheoli cronfa ddata gwybodaeth strydoedd

Mae鈥檙 Wobr 鈥楪orau yn y Rhanbarth鈥 yn wobr fawr ei barch gyda chystadleuaeth gref ac mae鈥檙 Wobr Perfformiad Aur yn gydnabyddiaeth ffurfiol o natur werthfawr cronfa ddata cyfeiriadau'r awdurdod ac yn cydnabod y gwaith caled a'r sgil sydd ei angen i gynnal a chadw'r safonau uchaf yn y profion cenedlaethol ar ragoriaeth data ar gyfer cronfa ddata sy'n newid yn gyson.听听

Meddai鈥檙 Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

鈥淗offwn longyfarch gwaith caled ein Ceidwad Cyfeiriadau, Zoe Bowden, a Cheidwad Strydoedd, Sam Tulley.听 Mae angen ymrwymiad a chydlyniad er mwyn creu darpariaeth lyfn o wasanaethau perthnasol i鈥檙 cyhoedd, gan eu bod oll yn dibynnu ar gyfeiriadu cywir. Defnyddir gwybodaeth tir, eiddo, stryd a chyfeiriad i gysylltu gwahanol wasanaethau ar draws y Cyngor, gan roi 鈥榞olwg lefel eiddo鈥 i gymunedau ac unigolion, o鈥檙 gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Hebddo, a heb waith y Ceidwaid Strydoedd a Chyfeiriadau, ni fuasai gennym y data o safon uchel sy'n hanfodol ar gyfer gweithrediad effeithlon ac effeithiol o'r gwasanaethau hynny yn Sir y Fflint."

Wrth gyhoeddi鈥檙 Wobr 鈥楪orau yn Rhanbarth Cymru鈥, dywedodd Kerry Pearce, Rheolwr Data Cyfeiriadau Cenedlaethol:

鈥淢ae Sir y Fflint wedi cyflawni鈥檙 safonau uchaf o reoli data gwybodaeth cyfeiriadau yn rhanbarth Cymru, sy鈥檔 llawn haeddu cydnabyddiaeth ar lwyfan cenedlaethol. Mae cyflawni'r lefel hyn yn dangos rhagoriaeth ac ymrwymiad i broses sy鈥檔 dod 芒 buddion lleol a chenedlaethol.鈥

Mae gwaith y Ceidwaid Cyfeiriadau a Strydoedd, ynghyd 芒 Swyddogion Enwau a Rhifau Strydoedd yn galluogi:

  • Gwasanaethau brys a gofal i ddod o hyd i eiddo yn gyflym
  • Post a nwyddau i gael eu dosbarthu'n effeithlon
  • I ymwelwyr ddod o hyd i鈥檙 llefydd maent angen mynd
  • Darpariaeth ddibynadwy o wasanaethau a chynnyrch听
  • Cofnodion darparwyr gwasanaeth sy鈥檔 cael eu cadw mewn modd effeithlon
  • Gwelliannau i safon cofnodion treth y cyngor ac ardreth annomestig
  • Cefnogi systemau adrannol cefn swyddfa
  • Gwaith partneriaeth gwell
  • Cefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth