Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi gwasanaeth bws newydd
Published: 16/05/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael gwybod y bydd gwasanaeth bws newydd o鈥檙 enw 鈥渞hif 9鈥 yn dechrau gweithredu rhwng Canolfan Siopa Cei Connah a Pharc Manwerthu Brychdyn o 20 Mai 2019.听
Bydd y gweithredwr bws lleol, P&O Lloyd, yn cynnal y gwasanaeth ac yn cymryd lle Gwasanaeth Arriva Rhif 12 yn rhannol, a ddaeth i ben ym mis Ebrill.听 听Bydd y llwybr yn gwasanaethu cymunedau Cei Connah, Shotton, Aston, Mancot, Sandycroft, Manor Lane a Brychdyn gan ddarparu mynediad at Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy. Mae amserlen y gwasanaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint neu drwy Traveline Cymru.听
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:听
听鈥淵n dilyn dod 芒 gwasanaeth Arriva rhif 12 i ben, mae sawl un yn Sir y Fflint wedi mynegi eu bod yn bryderus ac yn ofni iddynt gael eu hynysu heb wasanaeth bws rheolaidd. Rydym yn croesawu'r newyddion bod P&O Lloyd yn dechrau'r gwasanaeth Rhif 9 ac rwyf yn annog pobl i gefnogi'r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei gynaliadwyedd i鈥檙 dyfodol.鈥
听