Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adfywio Canol Trefi
Published: 14/05/2019
Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor adroddiad sydd wedi鈥檌 anelu i gefnogi adfywio canol trefi yn Sir y Fflint.听
Mae canol trefi ledled y DU yn wynebu amodau economaidd heriol sydd yn effeithio ar eu cynaliadwyedd. Mater arall sydd wedi ychwanegu at y broblem yn enwedig yn Sir y Fflint, ydi鈥檙 ffaith fod gwasanaethau manwerthu a bancio yn gadael y stryd fawr gan effeithio ar eu maint a'u bywiogrwydd.
Bwriad cyfres o gynigion ar gyfer canol trefi yn Sir y Fflint ydi cynyddu amrywiaeth y defnydd yng nghanol ein trefi, gan gryfhau r么l grwpiau budd-ddeiliad lleol a chefnogi busnesau i addasu a chystadlu鈥檔 fwy effeithiol, ac mae鈥檙 rhain yn cynnwys;
- datblygu cynlluniau hir dymor gyda budd-ddeiliaid ym mhob tref;
- buddsoddi mewn canolfannau gwasanaethau rheng flaen mewn lleoliadau canol tref i wella mynediad i gwsmeriaid at wasanaethau a chynyddu nifer yr ymwelwyr;听
- cefnogi prosiectau budd-ddeiliaid lleol gan gynnwys mentrau treftadaeth;听
- gwelliannau amgylcheddol a鈥檜 hyrwyddo鈥檔 lleol;
- arwain ac ymateb i ddiddordeb yn y farchnad yng nghanol trefi;听
- darparu grantiau eiddo ac ychwanegiadau strydlun i wellaymddangosiad;
听Byddai busnesau hefyd yn cael cymorth i addasu i鈥檙 hinsawdd economaidd newidiol drwy:
- cefnogaeth i rwydweithio busnes a dysgu ar y cyd;
- darparu cyllid grant neu fenthyciad ar gyfer datblygu eiddo (fel y bo'r adnoddau'n caniat谩u);听
- gwella argaeledd a fforddiadwyedd cysylltiad band eang cyflym;听
- cyfeirio busnesau at raglenni cymorth Llywodraeth Cymru, yn enwedig ar gyfer sgiliau digidol.听
Byddai cefnogaeth yn cael ei roi, lle bo鈥檔 hyfyw i greu Ardaloedd Gwella Busnes ac mae dichonolrwydd er mwyn datblygu Ardal Gwella Busnes yng nghanol tref yr Wyddgrug yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.听
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a Thai:
鈥淢ae canol trefi angen adlewyrchu鈥檙 realiti newydd mai cyfran fechan o wariant lleol sy鈥檔 cael ei wario yng nghanol trefi a bod rolau megis darparu gwasanaeth, gofod ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a gofod byw yn gynyddol bwysig.听
鈥淢ae鈥檙 Cyngor wedi buddsoddi adnoddau sylweddol yn cryfhau arweinyddiaeth gymunedol leol, er enghraifft gweithio gyda budd-ddeiliaid Treffynnon ar gynllun prawf i alluogi ceir i deithio ar hyd y stryd fawr, cefnogi Cyngor Tref Bwcle i ddatblygu cynllun gweithredu hir dymor, a dod 芒 budd-ddeiliaid y Fflint ynghyd i arwain y gwaith o adfywio鈥檙 dref.听
鈥淢ae cyflwyno Gweledigaeth Dwf Gogledd Cymru, trwy gam cychwynnol prosiectau cyfalaf y Fargen Twf a rhaglenni ehangach o waith yn golygu bod yna botensial i ddod 芒 manteision sylweddol i ganol ein trefi.鈥澨
听