Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Pobl Ifanc yn siarad am y ffordd y mae prosiect a redir gan y Cyngor wedi鈥檜 helpu i drawsnewid eu bywydau
Published: 12/04/2019
Mae T卯m ADTRAC yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed o bob cwr o Wrecsam a Sir y Fflint ac yn eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sy'n gallu ei gwneud yn anodd iddyn nhw gael swydd, lle ar gwrs hyfforddi neu fynd ymlaen i addysg bellach.
Beth mae ADTRAC yn ei gynnig?
- Cymorth dwys un i un
- Cynlluniau gweithredu personol
- Cefnogaeth i feithrin hyder a goresgyn rhwystrau
- Cymorth lles gan gynnwys cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd meddwl ysgafn / cymedrol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Mynediad i hyfforddiant
- Cefnogaeth cyflogadwyedd
Dywedodd Jack (17), sydd wedi bod yn rhan o raglen ADTRAC ers mis Ionawr 2018, "Mae wedi fy helpu mewn ffyrdd cadarnhaol 芒 dweud y gwir. Rydw i鈥檔 berson mwy positif, mae fy nheulu hyd oed wedi sylwi ar hynny ers i mi ddechrau ADTRAC ac ers i mi fod yn gweithio gyda Nathan rydw i wedi bod yn llawer mwy positif a hapus."
Mae Jack hefyd yn dweud ei fod bellach yn barod i chwilio am swydd ac yn teimlo bod y prosiect wedi鈥檌 helpu i deimlo鈥檔 ddigon hyderus i wneud hynny. Nid yn unig y mae鈥檙 prosiect wedi cael effaith bositif ar gyflogadwyedd Jack ond mae wedi cael effaith bositif ar ei fywyd adref hefyd.
Meddai Jack: "Rydym ni wastad wedi bod yn deulu clos, ond ers i mi fod yn rhan o'r prosiect rydym wedi dod hyd yn oed yn agosach."
听
Mae ADTRAC wedi bod ar waith ers ychydig dros flwyddyn ac mae eisoes yn gweld canlyniadau positif:听
- Roedd 74% o bobl ifanc wedi cael trafferth ymgysylltu ag addysg, gwaith a hyfforddiant. Gostyngodd y ffigwr hwn i 12% wrth iddynt ymadael.
- Roedd 81% o bobl ifanc yn nodi diffyg hyder fel un o'u prif rwystrau i addysg, gwaith a hyfforddiant.
- Roedd 63% o bobl ifanc wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir pan gawsant addysg
Mae cyfanswm o dros 468 o bobl ifanc wedi cael eu hatgyfeirio i brosiect ADTRAC ledled Wrecsam a Sir y Fflint yn y flwyddyn gyntaf. Mae鈥檙 prosiect, a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop, yn anelu at ddarparu cymorth pwrpasol i bobl ifanc yn unigol gan fentoriaid personol ADTRAC neu ymarferwyr iechyd meddwl y GIG, yn ogystal 芒 chyrsiau a hyfforddiant pwrpasol a lunnir i ddiwallu anghenion penodol y bobl ifanc 16-24 oed a gwella eu lles.
Dywedodd Joseph (22), sydd wedi bod yn rhan o raglen ADTRAC ers mis Mai 2018; "Roeddwn i鈥檔 arfer aros i mewn o hyd, mynd i fy nghragen a chau鈥檙 byd allan. Doeddwn i ddim wedi cael cefnogaeth o鈥檙 blaen, felly roedd popeth yn anodd o hyd. Ond, mae help y t卯m iechyd meddwl a Nathan (mentor ADTRAC) wedi bod yn help garw. Rydw i bob amser wedi bod yn angerddol am helpu pobl ac rydw i鈥檔 gwybod rwan fy mod am ddilyn y llwybr mentora a bod yn fentor fy hun"
Gweithio mewn partneriaeth
Mae ADTRAC yn cael ei ariannu鈥檔 rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac mae鈥檔 cael ei arwain gan Grwp Llandrillo Menai ledled gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth 芒 Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.
"Angen go iawn am y gwasanaeth"
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, "Mae hwn yn brosiect gwych ac rydw i鈥檔 edrych ymlaen at weld ei gynnydd. Gyda dros 250 o atgyfeiriadau yn Wrecsam a 211 yn Sir y Fflint ym mlwyddyn gyntaf y prosiect, mae鈥檔 dangos bod angen go iawn am y gwasanaeth a鈥檌 fod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn yr ardal. O wylio鈥檙 ffilmiau o鈥檙 bobl ifanc sydd wedi cael help uniongyrchol gan y prosiect gallwch weld yn union pa mor fuddiol yw'r gefnogaeth."
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts,听听Arweinydd Cyngor Sir y Fflint,听Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
"Mae hon yn rhaglen fendigedig. Mae鈥檙 gwaith wedi helpu llawer iawn o bobl ifanc i oresgyn y pethau, beth bynnag ydyn nhw, sy鈥檔 eu rhwystro rhag medru cael swydd neu gael lle ar gwrs hyfforddiant neu gwrs addysg bellach. Maen nhw鈥檔 cael mwy o gyfleoedd i fod yn annibynnol ac yn iach. Byddwn yn dal ati wedi llwyddiant y flwyddyn gyntaf, ac yn dal i ddarparu gwasanaethau sydd ar flaen y gad o ran arferion da."
Gallwch ganfod mwy am y prosiect yn neu cysylltwch 芒 th卯m ADTRAC ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint ar ADTRAC@wrexham.gov.uk am fanylion pellach ynglyn 芒鈥檙 broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau ac ar gyfer hunan-atgyfeirio.