每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cerdded i Barc Gwepra

Published: 12/04/2019

P'un a ydych chi鈥檔 mynd 芒鈥檆h ci am dro, yn rhedeg ras y parc, yn ymweld 芒鈥檙 maes chwarae gyda'ch teulu neu'n cyfarfod 芒 ffrindiau am ginio, heb os nac oni bai, mae Parc Gwepra yn rhywle arbennig y mae pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr o du allan i鈥檙 sir yn dewis treulio eu hamser hamdden. Fodd bynnag, yn ystod gwyliau ysgol a gwyliau cyhoeddus, mae'r prysurdeb yn gallu cael effaith ar y parc a'r ardal leol o ganlyniad i gynnydd yn y pwysau traffig a pharcio, ac mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn annog pobl i fod yn ystyriol wrth ddefnyddio ein mannau naturiol a鈥檔 parciau gwledig.听听

Meddai Tom Woodall, Pennaeth Mynediad a鈥檙 Amgylchedd Naturiol;

鈥淩ydym yn falch iawn bod Parc Gwepra mor boblogaidd ac yn falch o鈥檙 cyfleoedd arbennig y mae'r parc yn eu cynnig i bobl fwynhau'r ardal naturiol boblogaidd ynghyd 芒'r cyfleusterau hamdden y mae'n eu darparu, ond mae'n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn rhoi gormod o bwysau ar yr adnodd cymunedol pwysig hwn.听

鈥淏yddai teithio i Barc Gwepra heb eich cerbyd, os ydych chi'n gallu gwneud hynny, nid yn unig yn lleihau lefelau CO2 a llygredd swn, yn ogystal 芒 lleihau 么l troed carbon, ond bydd hefyd yn helpu i leihau effaith y lefelau traffig cynyddol yn yr ardal, sy'n gallu cael effaith ar brofiad pobl yn y parc yn ogystal ag achosi problemau i drigolion lleol.听

Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad:听

鈥淢ae treulio amser yn yr awyr agored a mwynhau'r amgylchedd naturiol yn hanfodol ar gyfer听 ein lles meddyliol a chorfforol, ac mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn awyddus i gynnal a datblygu mannau naturiol a pharciau gwledig i sicrhau profiadau dymunol i bawb, a gall pob un ohonom ni helpu i gyflawni hynny.听

鈥淥s ydych chi鈥檔 bwriadu ymweld 芒 Pharc Gwepra yn ystod gwyliau鈥檙 ysgol neu dros Wyl y Banc, ystyriwch gerdded neu seiclo yno, a meddyliwch am y buddion i chi ar lefel bersonol yn ogystal 芒鈥檙 buddion i'r parc a'r trigolion lleol.听 Fel arall, gallwch ystyried defnyddio鈥檙 maes parcio ddeg munud i ffwrdd ar droed ar waelod Wepre Drive. Byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac yn helpu i leddfu鈥檙 pwysau parcio yn y parc ac ar ffyrdd lleol.听

鈥淢ae llefydd hyfryd eraill y gellir ymweld 芒 hwy yn Sir y Fflint, megis Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwledig Waun-y-Llyn ar Fynydd yr H么n, neu beth am fynd am dro ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru drwy Sir y Fflint, lle y gallwch chi weld Castell y Fflint, Porthladd Maes Glas a Thalacre.鈥

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, syniadau am lwybrau cerdded a manylion am weithgareddau cefn gwlad eraill ar wefan y cyngor: