Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Growing Places yn helpu pobl i ddatblygu
Published: 14/03/2019

Mae Growing Places yn un o wasanaethau cymorth Iechyd Meddwl Cyngor Sir y Fflint.听
Wedi鈥檌 leoli yn Shotton, mae鈥檔 cefnogi pobl mewn amgylchedd diogel i fod yn fwy hyderus a datblygu sgiliau a chymwysterau ar gyfer gwaith.听 Mae Growing Places yn wasanaeth garddio cymunedol, sydd hefyd 芒 rhandir a thwnelau polythen sy'n cael eu defnyddio i dyfu a photio planhigion.听
Ar ymweliad diweddar, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
听鈥淩oedd hi鈥檔 wych gweld y gwaith arbennig sy鈥檔 cael ei wneud gan Growing Places. Mae鈥檙 gwasanaeth yn werthfawr iawn i aelodau鈥檙 t卯m a鈥檜 teuluoedd.
听鈥淒yma enghraifft arall o鈥檙 holl ofal cymdeithasol rhagorol sydd ar gael yn Sir y Fflint sydd, yn anffodus, wedi diflannu o ardaloedd eraill yn y DU. Rydw i鈥檔 falch ein bod ni yn Sir y Fflint wedi parhau i weld pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl sy鈥檔 hwylus i bobl, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol cenedlaethol sydd arnom.鈥
听
Ychwanegodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
听鈥淢ae hi mor braf gallu dod i weld cyfleuster mor hyfryd.听 Rydw i鈥檔 falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i ariannu gwasanaethau mor bwysig ar gyfer rhai o鈥檔 trigolion mwyaf bregus. Mae gallu gweithio mewn lle mor ddiogel yn caniat谩u i bobl fagu hyder. Fel rhan o d卯m, maen nhw鈥檔 teimlo eu bod o werth.听 听
鈥淎r yr un pryd, maen nhw鈥檔 dysgu sgiliau gwerthfawr ac, fel busnes garddio llewyrchus, mae Growing Places yn cynnig cyswllt 芒 chyfleoedd i wirfoddoli a pharhau i addysg bellach.听 Mae鈥檔 gam hynod werthfawr i unigolion fagu hyder, cymhelliant a phrofiad ac, yn y pen draw, i fynd ymlaen i wella."
Mae tri gweithiwr llawn amser sy'n cefnogi'r unigolion i ddatblygu eu sgiliau i gadw gardd, meithrin blodau, planhigion a llysiau a thasgau gweinyddol. Mae hefyd rhywfaint o weithgarwch gwaith coed ar wahanol adegau yn y flwyddyn.
Dywedodd Rheolwr Growing Places, Jacqueline Vaughan-Thomas:听听
听鈥淢ae hwn yn adnodd hyfryd 鈥 yn ogystal 芒鈥檔 gwasanaeth garddio, rydyn ni鈥檔 defnyddio'r ffrwythau a'r llysiau rydyn ni'n eu tyfu i annog pobl i fwyta'n iach.听 Rydyn ni鈥檔 cynnal sesiynau coginio rheolaidd yn y gegin Growing Places lle mae aelodau鈥檙 t卯m yn helpu i baratoi鈥檙 bwyd ac yna鈥檔 eistedd gyda鈥檌 gilydd i fwynhau鈥檙 pryd mewn awyrgylch cymdeithasol."
听