Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Polisi Gwerth Cymdeithasol
Published: 14/03/2019
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi adolygu a chymeradwyo鈥檙 Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ddrafft.
Mae gwerth cymdeithasol yn edrych y tu hwnt i gost ariannol gwasanaeth ac mae'n ystyried pa fuddion ychwanegol sydd i'r gymuned. Bydd gweithredu鈥檙 Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn elfen allweddol i fodloni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.听
Mae鈥檙 strategaeth hon yn arwydd o ddull newydd, hollgynhwysol o greu gwerth cymdeithasol o weithgareddau鈥檙 Cyngor a鈥檌 bartneriaid.听
Mae鈥檙 Strategaeth ddiwygiedig yn herio partneriaid, gwasanaethau a chyflenwyr i ystyried sut y gallent greu gwerth ychwanegol i gymunedau Sir y Fflint a mesur hynny.
Y nodau hirdymor wrth weithredu鈥檙 Strategaeth yw:
- caniat谩u i sefydliadau鈥檙 trydydd sector ddangos y gwerth cymdeithasol sy鈥檔 cael ei greu drwy eu gwaith, a fydd yn eu helpu i gael adnoddau a chontractau;
- annog cwmn茂au lleol a rhanbarthol i gryfhau eu hymagwedd at gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol; ac
- annog a chefnogi rheolwyr gwasanaethau鈥檙 sector cyhoeddus i wella鈥檜 hymwybyddiaeth o effeithiau eu gwaith ar y gymuned.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor wedi gwneud cynnydd cadarnhaol yn y blynyddoedd diwethaf i gynnig gwerth cymdeithasol ychwanegol o'i wariant ar ddarparu gwasanaethau, yn enwedig y nifer uwch o brentisiaethau sy'n cael eu darparu drwy ein rhaglenni buddsoddi cyfalaf ar dai cyngor newydd a gwelliannau mewn ysgolion."
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:
鈥淢ae adolygiad wedi鈥檌 gynnal ac mae鈥檔 amlwg bod yr hyn sy鈥檔 digwydd ar hyn o bryd wedi'i ddatblygu鈥檔 dda, yn enwedig yn y diwydiant adeiladu. Mae cyflenwyr yn gyfarwydd iawn 芒 darparu buddion i gymunedau, yn enwedig prentisiaethau a phrofiad gwaith, ac mae fframwaith da i gasglu tystiolaeth o'r hyn sydd wedi'i gyflawni."
Bydd angen adnoddau i ddatblygu dull effeithiol i greu gwerth cymdeithasol. Y bwriad yw creu swydd i swyddog arweiniol er mwyn cyflawni鈥檙 Strategaeth Gwerth Cymdeithasol, i ddarparu cymorth dwys i swyddogion, cyflenwyr a phartneriaid a sicrhau bod y buddion yn cael eu darparu a'u cofnodi. Bydd porth meddalwedd hefyd yn cael ei greu er mwyn gallu rheoli gwerth cymdeithasol yn effeithiol ar draws y Cyngor ac ymysg ei bartneriaid a dangos bod egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi'u cyflawni.
听