每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gyfalaf 2019/20 鈥 2021/22

Published: 18/02/2019

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ofyn i gymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2019/20 鈥 2021/22 pan fydd yn cyfarfod ar ddydd Mawrth 19 Chwefror.

Gobaith rhaglen gyfalaf y Cyngor yw buddsoddi鈥檔 ariannol mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn galluogi darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel a gwerth am arian. Mae asedau yn cynnwys adeiladau (megis ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd); isadeiledd (megis priffyrdd, rhwydweithiau TG a chanolfannau ailgylchu gwastraff ty), ac asedau nad ydynt yn eiddo i鈥檙 cyngor (megis gwaith i wella ac addasu tai preifat trwy grantiau cyfleusterau i'r anabl neu grantiau gwella). Mae鈥檙 buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig yn cyd-fynd yn agos 芒 chynllunio gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

Mae gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig o du Llywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwyddau鈥檙 Cyngor.Yn hanesyddol, mae llawer o raglen y Cyngor wedi cael ei ariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau, ac mae鈥檙 pwerau ganddo i ariannu cynlluniau cyfalaf trwy fenthyca. Caiff cynlluniau a ariennir trwy fenthyca eu hystyried yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw鈥檙 Cyngor gan fod yn rhaid ad-dalu unrhyw fenthyciadau o鈥檙 fath o adnoddau refeniw y Cyngor.

Mae buddsoddiadau allweddol yn cynnwys gwaith adeiladu angenrheidiol ar ysgolion; ailddatblygiad Ysgol Uwchradd Cei Connah ac Ysgol Gynradd Queensferry ac uned cyfeirio disgyblion newydd o dan raglen adeiladu newydd Ysgolion yr 21ain Ganrif mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru yn ogystal ag estyniad i Gartref Gofal Preswyl Marleyfield ym Mwcle.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Cyllid:

鈥淒ros dymor tair blynedd y Rhaglen Gyfalaf, bydd y Cyngor yn gweld buddsoddiad o oddeutu 拢27m.Nid yn unig y bydd y gwaith hwn yn creu cyfleusterau sydd wedi鈥檜 gwella鈥檔 sylweddol mewn ysgolion a chartrefi gofal, ond bydd hefyd yn creu cyfoeth economaidd trwy鈥檙 prosiectau adeiladu a鈥檜 cadwyni cyflenwi cysylltiedig yn ogystal 芒 thrwy brentisiaethau a chyfleoedd cyflogaeth lleol.Dyma raglen waith uchelgeisiol, ac rydym yn ymgymryd 芒 hi er gwaethaf y ffaith fod y Cyngor yn parhau i wynebu heriau ariannol newydd鈥.