Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Plannu perllan ym Mharc Gwepra
Published: 25/01/2019
Byddwn yn plannu 35 o goed ffrwythau ar hen gwrs golff Parc Gwepra.
Mae hyn yn rhan o'r gwaith parhaus sy鈥檔 mynd rhagddo ym Mharc Gwepra ar gyfer bywyd gwyllt a phobl. Mae'r coed ffrwythau yn cynnwys coed afalau, ffrwythau meddal a choed cnau. Bydd Ysgol Ty Ffynnon, Ysgol Gynradd Sir Gwepra ac Ysgol Maes Hyfryd, a Chlwb Garddio Plas Derw Parc Gwepra yn ein helpu i blannu鈥檙 coed.
Mae ardaloedd o berllannau traddodiadol wedi gostwng dros 60% yn y 50 mlynedd diwethaf yn y DU. Mae鈥檙 perllannau hyn a fu unwaith yn rhywbeth mor gyffredin yn ein cefn gwlad bellach yn brin iawn, ac wedi鈥檜 rhestru yn flaenoriaeth cadwraeth cenedlaethol.
Wrth golli cynefin y berllan draddodiadol, rydym hefyd yn wynebu'r posibilrwydd o golli'r 1800 o rywogaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 perllannau, mathau prin o ffrwythau, gwybodaeth, traddodiadau hynafol a nodweddion tirwedd amlwg. Achos y gostyngiad yw鈥檙 newid i arferion amaethyddol a chystadleuaeth gan archfarchnadoedd sy鈥檔 gallu darparu ffrwythau wedi'u mewnforio am brisiau rhad, sy鈥檔 golygu nad yw cynnyrch ein perllannau brodorol yn economaidd hyfyw.
Mae perllan yn gallu darparu hafan i anifeiliaid gwyllt yn ein tirwedd sy鈥檔 llawn amaethyddiaeth ddwys a datblygiadau. Gall un goeden afal yn unig gefnogi dros 1000 o rywogaethau infertebrata. Gall y cymysgedd o goed ffrwythau a glaswelltir greu amgylchedd sydd 芒 chyfoeth o fioamrywiaeth.
Byddwn yn plannu'r berllan ger ein hardal addysg a bydd yn cael ei defnyddio ar gyfer sesiynau wrth iddi ddechrau datblygu. Bydd ymwelwyr ein parc a鈥檙 plant a helpodd i blannu鈥檙 berllan yn gallu gwylio鈥檙 coed yn tyfu i fod yn berllan ffrwythlon a mwynhau鈥檙 ffrwythau y bydd y coed yn eu cynhyrchu.
Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
"Mae gwella ein hardaloedd gwyrdd lleol a chynhaliaeth a thyfiant ein perllannau traddodiadol yn werthfawr iawn i鈥檔 cymuned. Bydd plannu鈥檙 coed hyn nid yn unig yn helpu'r cynefinoedd ym Mharc Gwepra, bydd hefyd yn hyrwyddo cynnyrch bwyd a dyfir yn lleol. Diolch i鈥檙 ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn y plannu ac i dimau Cefn Gwlad a Chadwraeth Cyngor Sir y Fflint am drefnu hyn."
Dywedodd Ste Lewis, ceidwad 芒 Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint:听
"Mae鈥檙 berllan hon yn rhywbeth gwych i ychwanegu at y cynefinoedd sydd eisoes yma yng Ngwepra, ac mae'r ffaith bod ysgolion lleol yn cymryd rhan yn arbennig, bydd y plant a'n holl ymwelwyr yma yng Ngwepra yn gallu ymweld 芒'r berllan wrth iddi dyfu."
听



听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听
听