Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Comisiynydd yn ymweld â Marleyfield House
Published: 14/05/2025
Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Sir y Fflint y pleser o groesawu Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru i Marleyfield House, Cartref Gofal Preswyl, Bwcle.
Dechreuodd Rhian ei swydd fel Comisiynydd Pobl Hyn ddiwedd mis Medi 2024. Mae'n sicrhau bod lleisiau pobl hyn yn cael eu clywed, bod ganddyn nhw ddewis a rheolaeth a'u bod nhw'n cael y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, gan ddiogelu eu hawliau dynol ar yr un pryd.
Mae Marleyfield House yn rhoi cefnogaeth hanfodol i bobl hyn sy'n chwilio am ofal preswyl hirdymor a'r rhai sydd angen cefnogaeth/therap茂au tymor byrrach i alluogi iddynt ddychwelyd i fyw'n annibynnol gartref ar 么l cyfnod yn yr ysbyty.
Yn ystod ei hymweliad, dangoswyd y cartref i鈥檙 Comisiynydd, gan gyfarfod 芒 phreswylwyr parhaol a byrdymor a siarad 芒 nhw am y gofal a'r gefnogaeth maen nhw'n ei gael, ynghyd 芒'u profiadau personol o fyw neu aros yn y cartref.
Cafodd y Comisiynydd gyflwyniad hefyd ar gynlluniau鈥檙 Cyngor ar gyfer ei gartref gofal newydd nesaf - Ty Croes Atti, y Fflint.聽聽 Mae Llywodraeth Cymru, Ysbyty Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint a budd-ddeiliaid eraill wedi cydweithio ar ddatblygu'r cyfleuster newydd sbon hwn a fydd yn darparu gwasanaethau hanfodol tebyg i'r rhai yn Marleyfield House.聽
Meddai鈥檙 Comisiynydd Pobl Hyn, Rhian Bowen-Davies: 鈥淩oedd yn bleser ymweld 芒 Marleyfield House a chwrdd 芒 phobl hyn a staff i ddysgu mwy am yr effaith gadarnhaol o ganlyniad i鈥檙 gofal a鈥檙 gefnogaeth sy鈥檔 cael eu darparu yno.
鈥淩oedd yn wych gweld ffocws mor gryf ym Marleyfield wrth deilwra cefnogaeth i ddiwallu anghenion unigol pobl, a bod y dull hwn yn cael ei fabwysiadu鈥檔 ehangach ar draws Sir y Fflint fel rhan o gynlluniau鈥檙 dyfodol.鈥
Meddai Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones: "Roeddwn i mor falch o groesawu Rhian i Marleyfield House ac o gael y cyfle i rannu ein cyflawniadau gyda hi. Mae'r galw am ofal cymdeithasol yn tyfu, ond rydym yn parhau i wynebu setliadau cyllideb heriol gan lywodraethau cenedlaethol. Mae buddsoddi i arbed yn rhywbeth rydyn ni'n angerddol amdano yma yn Sir y Fflint.
鈥淢ae nodi datrysiadau i sefyllfaoedd cyn iddynt ddod yn argyfwng yn un o鈥檙 ffyrdd y gallwn weithio gyda phartneriaid i leihau鈥檙 galw ar wasanaethau.聽 Yn bwysicach fyth, fodd bynnag, mae'n ein galluogi i ddarparu mynediad i bobl leol a'u teuluoedd at wasanaethau lleol sy'n galluogi amrywiaeth o opsiynau byw鈥檔 annibynnol sy'n diwallu anghenion yr unigolyn.聽 Rwy'n hynod falch o Marleyfield House ac rwy鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at weld preswylwyr cyntaf Ty Croes Atti yn ddiweddarach eleni."聽聽