每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol Trefi Sir y Fflint

Published: 26/03/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod y Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau wedi bod yn llwyddiant enfawr.

Dros y 18 mis diwethaf, mae 23 o sefydliadau ar draws Sir y Fflint wedi elwa o gael 拢109,697.52 o gyllid grant ar gyfer eu gweithgareddau a digwyddiadau yng nghanol 7 o drefi (Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton).Gyda hyd at 80% o gyllid grant ar gael, fe gyfrannodd bob un o鈥檙 sefydliadau llwyddiannus o leiaf 20% tuag at gostau cyffredinol eu gweithgareddau a digwyddiadau a ddaeth i 拢116,475.40 yn fwy na鈥檙 cyllid grant sy鈥檔 cael ei wario yn yr economi leol yn sgil y cynllun.

Roedd y Cynllun Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol Tref yn rhan o Raglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint oedd yn cynnwys cyfanswm o 10 prosiect a greodd dros 拢2 filiwn o fuddsoddiad mewn saith o drefi ar draws Sir y Fflint ers mis Medi 2023. Roedd y rhaglen yn bosibl yn sgil cyllid a gafwyd o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Nod Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol Tref oedd cefnogi ffyniant canol trefi trwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy鈥檔 dod 芒 mwy o bobl i ganol y dref. Mae busnesau canol y dref wedi wynebu cyfnodau economaidd heriol dros y blynyddoedd diwethaf, felly drwy roi hwb i weithgarwch yng nghanol trefi ar draws Sir y Fflint, mae hyn wedi bod o fudd i fusnesau ac wedi helpu i gynyddu bywiogrwydd cyffredinol y trefi ar draws y Sir.

O ganlyniad uniongyrchol yr arian grant hwn, cynhaliwyd 115 o weithgareddau neu ddigwyddiadau yng nghanol y trefi gyda 9756 o bobl yn bresennol. Mae 396 o bobl wedi gwirfoddoli yn y digwyddiadau neu鈥檙 gweithgareddau hyn ac mae o leiaf 245 o sefydliadau wedi elwa鈥檔 uniongyrchol o鈥檙 gweithgaredd/digwyddiad arfaethedig.

Yn rhan o鈥檙 gweithgareddau neu ddigwyddiadau mae 178 o bobl wedi elwa o uwchsgilio a hyfforddiant a chofnodwyd bod 423 o bobl wedi bod yn rhan o wneud penderfyniadau am eu canol tref.

Mae T卯m Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn ceisio cael arian i barhau gyda鈥檙 prosiect hwn o Ebrill 2025, a gwahoddir sefydliadau i wneud cais am arian o fis Ebrill 2025.Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei rannu o 1 Ebrill 2025 yn .

Fe fydd y T卯m Adfywio yn cynnal prynhawn gwybodaeth ddydd Mercher 2 Ebrill 2025 rhwng 12pm a 4pm i rannu gwybodaeth am gynllun 2025-26, ac i gynorthwyo 芒 chyngor am geisiadau a chynigion.Bydd yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Bwcle neu fel arall, e-bostiwch regeneration@flintshire.gov.uk