每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadarnhau gwaith trwsio Ysgol Uwchradd Penarlâg

Published: 11/12/2024

Mae gwaith i drwsio'r difrod a achoswyd gan Storm Darragh yn Ysgol Uwchradd Penarl芒g wedi dechrau a bydd yn parhau dros wyliau'r Nadolig.

Yn ystod y gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn, disgynnodd coeden fawr gan dynnu sawl cebl uwchben i lawr a oedd yn sownd i dalcen yr ysgol a wnaeth yn ei dro ddod 芒 rhan o'r wal i lawr.

Cyfarfu cynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint 芒 phrifathro Ysgol Uwchradd Penarl芒g ddydd Sul i gynnal arolwg o'r difrod a threfnwyd mesurau adfer i wneud yr ardal yn ddiogel.聽 Gwnaed penderfyniad i gau'r ysgol ddydd Llun fel rhagofal i sicrhau bod y waliau a ddifrodwyd yn cael eu harolygu a'u harchwilio gan beiriannydd adeiladu.

Ymwelodd ymgynghorydd arbenigol 芒'r safle ddydd Llun i asesu cyfanrwydd adeileddol y rhan o'r wal yr effeithiwyd arni, yn ogystal 芒'r tri thalcen arall, yr ystyriwyd bod pob un ohonynt yn ddiogel. Mae sgaffaldiau wedi'u codi ac mae'r adeilad bellach wedi'i atal rhag dwr a gwynt i atal difrod pellach.

Gall Cyngor Sir y Fflint gadarnhau y bydd gwaith trwsio parhaol yn digwydd ar ddiwedd y tymor ysgol yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Dywedodd Simon Budgen, Pennaeth yr Ysgol: 鈥淢ae鈥檙 prif ffocws wedi bod ar sicrhau bod yr ysgol yn ddiogel ac yn barod i groesawu disgyblion a staff yn 么l cyn gynted 芒 phosibl, ac rwy鈥檔 falch bod hyn wedi鈥檌 gyflawni. Rwy鈥檔 ddiolchgar i Gyngor Sir y Fflint a鈥檙 peirianwyr strwythurol am eu hymateb cyflym a phroffesiynol, yn ogystal ag i鈥檔 cymuned ysgol gyfan am eu hamynedd a鈥檜 cefnogaeth.聽 Edrychwn ymlaen at ailafael yn y drefn arferol tra bydd gwaith trwsio parhaol yn cael ei wneud dros wyliau鈥檙 Nadolig.鈥