Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mabwysiadu enw lle Cymraeg yn ffurfiol
Published: 21/11/2024
Mae鈥檙 enw Cymraeg ar New Brighton bellach wedi鈥檌 gydnabod yn swyddogol fel Pentre Cythrel, yn dilyn cefnogaeth Cabinet Cyngor Sir y Fflint.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr o blaid mabwysiadu'r enw Cymraeg ac mae gwaith yn mynd rhagddo rwan i sicrhau bod yr enw Cymraeg yn cael ei gynnwys ar sianelau swyddogol.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cael gwybod ac wedi diweddaru鈥檙 rhestr o enwau llefydd safonol ar eu gwefan. Rydym ni wedi gofyn i鈥檙 Rhestr Tir ac Eiddo Lleol, yr Arolwg Ordnans a鈥檙 Post Brenhinol i ddiweddaru eu cofnodion hwy hefyd. Gall preswylwyr rwan ddewis defnyddio Pentre Cythrel neu New Brighton fel eu cyfeiriad.
Yn 2018 cysylltodd aelodau o鈥檙 cyhoedd a sefydliadau gyda Phanel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn iddyn nhw ystyried 鈥楶entre Cythraul鈥 fel yr enw Cymraeg safonol ar New Brighton. Fodd bynnag, gan mai awdurdodau lleol sy鈥檔 gyfrifol am enwau lleoedd, mae鈥檙 Comisiynydd wedi bod yn cysylltu 芒鈥檙 Cyngor i ddarparu cyngor ar yr enw Cymraeg priodol.
Daeth aelod lleol at y Cyngor yn gofyn iddo fabwysiadu鈥檙 enw yn ffurfiol. Yn dilyn ymgynghoriad gyda phreswylwyr lleol, cafwyd llond llaw o wrthwynebiadau i 鈥楥ythraul鈥 oherwydd ystyr y gair.
Daw鈥檙 enw 鈥楶entre Cythraul鈥 o gysylltiad y pentref gyda theulu Catherall. Roedd y Comisiynydd yn cefnogi ffurf Gymraeg, ond yn ffafrio Pentre Cythrel. Dywedodd fod Cythrel yn adlewyrchu鈥檙 ffordd y caiff yr enw ei ynganu鈥檔 lleol.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: 鈥淔el aelod lleol Pentre Cythrel, dw i鈥檔 falch iawn bod gennym ni enw Cymraeg a gydnabyddir o鈥檙 diwedd. Mae preswylwyr lleol wedi bod yn defnyddio鈥檙 enw Cymraeg ers llawer o flynyddoedd, ac felly mae hwn wedi bod yn gam a groesawyd ganddynt. Mae hefyd yn cefnogi Strategaeth Hyrwyddo鈥檙 Gymraeg y Cyngor drwy wella gwelededd a normaleiddio鈥檙 defnydd o Gymraeg.鈥
Llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: 鈥淩ydym ni鈥檔 falch bod Cyngor Sir y Fflint yn gallu symud ymlaen yn hyderus i fabwysiadu enw Cymraeg safonol a swyddogol ar gyfer y pentref. Dydi penderfynu pa enw a ddylid ei gydnabod yn swyddogol ddim yn dasg hawdd bob tro ac mae鈥檙 Cyngor wedi mynd ati o ddifrif gyda鈥檙 broses enwi, mewn ymateb i alwadau gan breswylwyr lleol.
鈥淩ydym ni鈥檔 falch bod y Cyngor wedi ymgynghori鈥檔 ffurfiol gyda鈥檔 Panel Safoni Enwau Lleoedd i gael cyngor arbenigol ac annibynnol. Mae hefyd yn galonogol bod yr Arolwg Ordnans yn dymuno ymateb yn brydlon i鈥檙 argymhelliad swyddogol, yn unol 芒鈥檜 Polisi Enwau Cymraeg. Byddan nhw rwan yn diweddaru eu cronfeydd data ac yn defnyddio Pentre Cythrel ochr yn ochr 芒 New Brighton.鈥
Os oes unrhyw un yn newydd i鈥檙 Gymraeg ac yn ei chael hi鈥檔 anodd dweud Pentre Cythrel, mae yna recordiad ar gael gyda ffoneg ar wefan y Cyngor, felly gall pawb glywed a gweld yr ynganiad.